Adran 45 – Adroddiadau cynnydd
190.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar y corff cynghori i gyflwyno adroddiadau i Weinidogion Cymru yn nodi ei safbwyntiau ynghylch y cynnydd a wnaed mewn perthynas a’r targedau interim a tharged 2050 ac ar y cyllidebau carbon. Rhaid i’r corff cynghori ddarparu safbwyntiau ynghylch a yw’r targedau a’r cyllidebau yn debygol o gael eu cyrraedd ac a yw’n ystyried bod unrhyw gamau pellach yn angenrheidiol er mwyn eu cyrraedd.
191.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cynghori gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod cyllidebol cyntaf (sy’n ymwneud â’r blynyddoedd 2016-20) sy’n rhoi ei safbwyntiau ar y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd y cyllidebau carbon a osodwyd o dan Ran 2, y targedau allyriadau interim a tharged allyriadau 2050.
192.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl iddynt osod datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 41. Rhaid i’r adroddiad hwn roi safbwyntiau’r corff cynghori ynghylch y modd y cyrhaeddwyd neu nas cyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod, y camau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru i leihau cyfrif allyriadau net Cymru ac hefyd y materion a nodir yn is-adran (1) (h.y. y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd y cyllidebau a’r targedau sy’n weddill).
193.Mae is-adrannau (3) a (4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n cynnwys ei safbwyntiau ynghylch a yw’r targed interim nesaf (os yw hynny’n berthnasol) a tharged 2050 y targed uchaf y gellir ei gyflawni ac, os nad ydyw, beth yw'r targed uchaf y gellir ei gyflawni. Rhaid i’r adroddiad gael ei anfon at Weinidogion Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl iddynt osod y datganiadau ar gyfer y blynyddoedd targed interim gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 43.
194.Mae is-adran (5) yn darparu y caniateir cyfuno adroddiad o dan is-adran (3) neu (4) ag adroddiad o dan is-adran (2) ar gyllideb garbon.
195.Mae is-adran (6) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod copi o bob un o’r adroddiadau a dderbynnir ganddynt o dan is-adrannau (1) a (2) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
196.Mae is-adran (7) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod ymateb i unrhyw adroddiad a dderbynnir ganddynt gan y corff cynghori o dan yr adran hon gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl derbyn yr adroddiad.