127Cyfyngiad ar amrywio
(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
(a)adran 122(1)(b) a (2) a’r adran hon,
(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) ac adran 177 (torri’r rheolau blaendal),
(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),
(f)adran 149 (hawliadau meddiant),
(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),
(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),
(i)adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), a
(j)paragraff 7 o Atodlen 4 (amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol).
(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—
(a)oni bai, o ganlyniad i’r amrywiad—
(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu
(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond ym marn deiliad y contract effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;
(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.
(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
