Nodiadau Esboniadol i Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 Nodiadau Esboniadol

Adran 12 – Contract a fabwysiedir gan landlord cymunedol

78.Pan fo landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract diogel sy’n bodoli eisoes (er enghraifft pan drosglwyddir stoc tai awdurdod lleol i gymdeithas dai), bydd y contract diogel hwnnw’n parhau. Pan fo landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol sy’n bodoli eisoes yn sgil trosglwyddo hawliau’r landlord o dan gontract isfeddiannaeth (o dan adrannau 62 neu 66) bydd y contract hwnnw’n parhau fel contract safonol.

79.Ym mhob amgylchiad arall, bydd y contract yn dod i ben pan fydd y landlord cymunedol yn dod yn landlord, a bydd yn cael ei ddisodli gan gontract diogel, oni fydd un o’r eithriadau canlynol yn gymwys:

  • Mae’r contract meddiannaeth o fewn Atodlen 3 (gweler uchod) a’r landlord yn rhoi hysbysiad o dan adran 13 y bydd yn gontract safonol.

  • Mae’r contract yn gontract safonol ymddygiad gwaharddedig o ganlyniad i orchymyn o dan adran 116 (pan grëir contract safonol gan orchymyn llys o ganlyniad i ymddygiad gwaharddedig – gweler isod).

  • Roedd y contract yn gontract safonol cyfnod penodol sydd wedi dod i ben a dod yn gontract safonol cyfnodol, neu mae contract newydd wedi ei wneud ar ddiwedd cyfnod penodol (gweler adran 184(6)).

  • Mae tresmaswr yn meddiannu’r eiddo fel ei gartref ac yn gwneud taliadau a dderbynnir gan y landlord cymunedol sy’n berchen ar yr eiddo (gweler adran 238).

  • Mae’r contract yn gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer (er enghraifft drwy brynu eiddo lesddaliad sydd â llai nag 21 mlynedd yn weddill cyn i’r les ddod i ben) ac nid yw deiliad y contract wedi dewis (cyn i’r landlord cymunedol ddod yn landlord) fod y contract i barhau’n gontract safonol cyfnod penodol (gweler adran 15).

Back to top