DehongliLL+C
[F13Yn yr Atodlen hon—
[F2ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol;]
[F2ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;]
[F2ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil neu Weinidogion Cymru;]
ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—
(a)ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a
(b)er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;
[F3“gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;
“gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol” (“independent school teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;]
“gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—
(a)a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a
(b)syʼn hybu—
(i)datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu
(ii)ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;
“gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—
(a)cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;
(b)asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;
[F2ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;]
[F2ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;]
[F3mae i “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution”) yr ystyr a roddir yn adran 56(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);]
ystyr “ysgol” (“school”) yw—
(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;
(b)ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.]
[F3mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 para. 3 wedi ei amnewid (1.3.2017) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 (O.S. 2016/1183), erglau. 1(2), 8(3)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 3 wedi eu mewnosod (10.5.2024) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/613), erglau. 1(2), 6(3)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 3 wedi eu mewnosod (22.5.2023) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/551), erglau. 1(2), 11(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(z)
