Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Valid from 06/04/2016

157Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol er mwyn delio â’r seiliau dros ymyrryd, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod lleol neu unrhyw un neu rai o’i swyddogion, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 157 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)