xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 56 (Cy. 16)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024

Gwnaed

17 Ionawr 2024

Yn dod i rym

19 Ionawr 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1), a pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Ionawr 2024.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);

ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(3), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

2.  Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “Swyddfa’r Post” (“the Post Office”) yw Post Office Limited (rhif cofrestredig 02154540);;

ystyr “y system Horizon” (“the Horizon system”) yw unrhyw fersiwn o’r system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan Swyddfa’r Post, a elwir yn Horizon, Horizon Legacy, Horizon Online neu’n HNG-X;;

ystyr “taliad digollediad Swyddfa’r Post” (“Post Office compensation payment”) yw taliad a wneir gan Swyddfa’r Post neu’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben darparu digollediad neu gymorth sydd—

(a)

mewn cysylltiad â methiannau’r system Horizon, neu

(b)

fel arall yn daladwy yn dilyn y dyfarniad yn Bates and Others v Post Office Ltd ((No. 3) “Common Issues”)(4);;

ystyr “taliad niwed drwy frechiad” (“vaccine damage payment”) yw taliad a wneir o dan Ddeddf Taliadau Niwed Drwy Frechiad 1979(5);;

(b)yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “yw person” mewnosoder “sy’n cael taliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad neu berson”.

4.  Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr), ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “£16.40” rhodder “£17.35”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “£5.45” rhodder “£5.80”;

(b)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “£236.00” rhodder “£256.00”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” rhodder “£256.00”, “£445.00” ac “£11.55” yn y drefn honno;

(iii)ym mharagraff (c), yn lle “£410.00”, “£511.00” a “£13.70” rhodder “£445.00”, “£554.00” a “£14.50” yn y drefn honno;

(c)ar ôl is-baragraff (9)(b) mewnosoder—

(c)unrhyw daliad a wneir o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006)(6);

(d)unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post.

5.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£217.00” rhodder “£235.20”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£324.70” rhodder “£352.00”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£324.70” a “£107.70” rhodder “£352.00” a “£116.80” yn y drefn honno;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£77.78”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£83.24”;

(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£18.53” rhodder “£19.15”;

(d)ym mharagraff 8 (premiwm plentyn anabl)—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (c) yn lle “.” rhodder “; neu”;

(ii)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(d)yn cael TALlA.;

(e)yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 12 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£76.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£81.50” ac yn lle “£152.80” rhodder “£163.00”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£30.17” rhodder “£32.20”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£74.69” rhodder “£80.01”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£42.75” rhodder “£45.60”.

6.  Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 16—

(i)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.;

(ii)yn is-baragraff (2), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iii)yn is-baragraff (3), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iv)yn is-baragraff (5), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(v)yn is-baragraff (6), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(vi)ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—

(6A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022(7) a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.;

(vii)yn is-baragraff (7), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(b)ym mharagraff 28C—

(i)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014(8) yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B)(9) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—

(a)sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017(10), a

(b)a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,

ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.;

(c)ar ôl paragraff 28E mewnosoder—

28F.  Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC(11)

(a)i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a

(b)mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.

7.  Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “£16.40” rhodder “£17.35”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “£5.45” rhodder “£5.80”;

(b)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “£236.00” rhodder “£256.00”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” rhodder “£256.00”, “£445.00” ac “£11.55” yn y drefn honno;

(iii)ym mharagraff (c), yn lle “£410.00”, “£511.00” a “£13.70” rhodder “£445.00”, “£554.00” a “£14.50” yn y drefn honno;

(c)yn is-baragraff (9), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post;.

8.  Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£90.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£96.45” ac yn lle “£71.55” rhodder “£76.35”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£90.40” rhodder “£96.45”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£141.95” rhodder “£151.45”;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£77.78”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£83.24”;

(c)ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£18.53” rhodder “£19.15”;

(d)yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 17 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£39.85” a “£56.80” rhodder “£42.50” a “£60.60” yn y drefn honno;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£76.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£81.50” ac yn lle “£152.80” rhodder “£163.00”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£74.69” rhodder “£80.01”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£42.75” rhodder “£45.60”;

(v)yn is-baragraff (5), yn lle “£30.17”, “£19.55” a “£27.90” rhodder “£32.20”, “£20.85” a “£29.75” yn y drefn honno;

(e)ym mharagraff 23, yn lle “£33.70” rhodder “£35.95”;

(f)ym mharagraff 24, yn lle “£44.70” rhodder “£47.70”.

9.  Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 29—

(i)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.;

(ii)yn is-baragraff (2), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iii)yn is-baragraff (3), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iv)yn is-baragraff (4), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(v)yn is-baragraff (5), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(vi)ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—

(5A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.;

(vii)yn is-baragraff (6), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(b)ym mharagraff 65—

(i)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—

(a)sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017, a

(b)a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,

ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.;

(c)ar ôl paragraff 67 mewnosoder—

68.  Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC—

(a)i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a

(b)mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.

10.  Yn Atodlen 11 (myfyrwyr), ym mharagraff 1(1) (dehongli), yn y diffiniad o “cronfeydd mynediad”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)unrhyw gyllid a ddarperir o dan adran 85 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022(12) at y diben o ddarparu cyllid i’w dalu ar sail ddisgresiynol i fyfyrwyr;.

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

11.  Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(13) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 18.

12.  Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “Swyddfa’r Post” (“the Post Office”) yw Post Office Limited (rhif cofrestredig 02154540);;

ystyr “y system Horizon” (“the Horizon system”) yw unrhyw fersiwn o’r system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan Swyddfa’r Post, a elwir yn Horizon, Horizon Legacy, Horizon Online neu’n HNG-X;;

ystyr “taliad digollediad Swyddfa’r Post” (“Post Office compensation payment”) yw taliad a wneir gan Swyddfa’r Post neu’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben darparu digollediad neu gymorth sydd—

(a)

mewn cysylltiad â methiannau’r system Horizon, neu

(b)

fel arall yn daladwy yn dilyn y dyfarniad yn Bates and Others v Post Office Ltd ((No. 3) “Common Issues”);;

ystyr “taliad niwed drwy frechiad” (“vaccine damage payment”) yw taliad a wneir o dan Ddeddf Taliadau Niwed Drwy Frechiad 1979;;

(b)yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “yw person” mewnosoder “sy’n cael taliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad neu berson”.

13.  Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “£16.40” rhodder “£17.35”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “£5.45” rhodder “£5.80”;

(b)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “£236.00” rhodder “£256.00”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” rhodder “£256.00”, “£445.00” ac “£11.55” yn y drefn honno;

(iii)ym mharagraff (c), yn lle “£410.00”, “£511.00” a “£13.70” rhodder “£445.00”, “£554.00” a “£14.50” yn y drefn honno;

(c)yn is-baragraff (9)—

(i)yn y testun Saesneg, ar ddiwedd paragraff (b) hepgorer “and”;

(ii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post;;

(iii)ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “a”.

14.  Ym mharagraff 70(1) (dehongli), yn y diffiniad o “cronfeydd mynediad”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)unrhyw gyllid a ddarperir o dan adran 85 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 at y diben o ddarparu cyllid i’w dalu ar sail ddisgresiynol i fyfyrwyr;.

15.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£217.00” rhodder “£235.20”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£324.70” rhodder “£352.00”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£324.70” a “£107.70” rhodder “£352.00” a “£116.80” yn y drefn honno;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£77.78”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£83.24”;

(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£18.53” rhodder “£19.15”;

(d)ym mharagraff 8 (premiwm plentyn anabl)—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (c) yn lle “.” rhodder “; neu”;

(ii)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(d)yn cael TALlA.;

(e)yn yr ail golofn (swm) yn y Tabl ym mharagraff 12 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£76.40” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£81.50” ac yn lle “£152.80” rhodder “£163.00”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£30.17” rhodder “£32.20”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£74.69” rhodder “£80.01”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£42.75” rhodder “£45.60”.

16.  Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£90.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£96.45” ac yn lle “£71.55” rhodder “£76.35”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£90.40” rhodder “£96.45”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£141.95” rhodder “£151.45”;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1) (swm), yn lle “£77.78”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£83.24”;

(c)ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£18.53” rhodder “£19.15”;

(d)yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 17 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£39.85” a “£56.80” rhodder “£42.50” a “£60.60” yn y drefn honno;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£76.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£81.50” ac yn lle “£152.80” rhodder “£163.00”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£74.69” rhodder “£80.01”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£42.75” rhodder “£45.60”;

(v)yn is-baragraff (5), yn lle “£30.17”, “£19.55” a “£27.90” rhodder “£32.20”, “£20.85” a “£29.75” yn y drefn honno;

(e)ym mharagraff 23, yn lle “£33.70” rhodder “£35.95”;

(f)ym mharagraff 24, yn lle “£44.70” rhodder “£47.70”.

17.  Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 16—

(i)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.;

(ii)yn is-baragraff (2), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iii)yn is-baragraff (3), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iv)yn is-baragraff (5), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(v)yn is-baragraff (6), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(vi)ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—

(6A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.;

(vii)yn is-baragraff (7), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(b)ym mharagraff 28C—

(i)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—

(a)sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017, a

(b)a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,

ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.;

(c)ar ôl paragraff 28E mewnosoder—

28F.  Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC—

(a)i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a

(b)mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.

18.  Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 29—

(i)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.;

(ii)yn is-baragraff (2), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iii)yn is-baragraff (3), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iv)yn is-baragraff (5), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(v)yn is-baragraff (6), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(vi)ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—

(6A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.;

(vii)yn is-baragraff (7), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(b)ym mharagraff 65—

(i)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—

(a)sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017, a

(b)a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,

ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.;

(c)ar ôl paragraff 67 mewnosoder—

68.  Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC—

(a)i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a

(b)mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Ionawr 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthau ar bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod hwnnw yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod diffiniadau newydd yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig o ganlyniad i ddiwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 12 yn gwneud yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliadau 4(c) (ond gweler ymhellach isod), 6(a)(i) i (v) a (vii), 7(c) a 9(a)(i) i (v) a (vii) yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig er mwyn creu diystyriadau newydd mewn perthynas â thaliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Swyddfa’r Post at ddiben darparu digollediad neu gymorth mewn cysylltiad â methiannau system gyfrifiadurol Horizon Swyddfa’r Post, neu sydd fel arall yn daladwy yn dilyn y dyfarniad yn Bates and Others v Post Office Ltd ((No. 3) “Common Issues”) [2019] EWHC 606 (QB), neu mewn perthynas â thaliadau a wneir o dan Ddeddf Taliadau Niwed Drwy Frechiad 1979. Gwneir yr un diwygiadau gan reoliadau 13(c), 17(a)(i) i (v) a (vii), a 18(a)(i) i (v) a (vii) o’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliad 4(c) yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i gywiro hepgoriad blaenorol yn y Rheoliadau hynny er mwyn sicrhau bod y rhestr o faterion y mae rhaid eu diystyru mewn perthynas â didyniadau annibynyddion sy’n gymwys i bersonau o oedran gweithio hefyd yn gymwys i bensiynwyr. Mae’r un rheoliad hefyd yn cynnwys diwygiad sy’n darparu ar gyfer diystyriad mewn perthynas â thaliadau digollediad Swyddfa’r Post (gweler uchod).

Mae rheoliad 5(d) yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig er mwyn sicrhau, pan fo ceisydd neu bartner ceisydd yn gyfrifol am berson ifanc sy’n aelod o aelwyd y ceisydd, a phan fo’r person ifanc hwnnw yn cael taliad annibyniaeth y lluoedd arfog, fod taliad o’r fath yn cael ei ystyried wrth benderfynu swm y premiwm sy’n gymwys at ddiben penderfynu swm unrhyw ostyngiad. Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 15(d).

Mae rheoliadau 6(a)(vi) a 9(a)(vi) yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i alluogi i daliadau penodol a wneir o ystad person ymadawedig gael eu diystyru at ddiben penderfynu cymhwystra am ostyngiad. Mae’r diystyriad yn gymwys i daliadau sy’n deillio o daliad a wnaed o gynllun gwaed cymeradwy, neu o Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, sydd i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022. Argymhellodd yr adroddiad hwnnw y dylid gwneud taliad interim i bawb sydd wedi ei heintio gan waed neu gynhyrchion gwaed halogedig, a’r holl bartneriaid mewn profedigaeth sydd wedi eu cofrestru ar gynlluniau cymorth gwaed heintiedig y DU, a’r rheini sy’n cofrestru cyn dechreuad unrhyw gynllun yn y dyfodol. Pan fo person sydd wedi ei heintio neu ei bartner mewn profedigaeth wedi cofrestru â chynllun o’r fath ond wedi marw cyn y gellid gwneud y taliad interim, bydd yn cael ei dalu i’w ystad. Bydd taliad sy’n deillio o daliad interim a delir o ystad person ymadawedig yn cael ei ddiystyru at ddiben penderfynu cymhwystra am ostyngiad os caiff ei wneud i fab, merch, llysfab neu lysferch y person ymadawedig. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(a)(vi) a 18(a)(vi).

Mae rheoliadau 6(b) ac (c) a 9(b) ac (c) yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig o ganlyniad i Orchymyn Budd-daliadau Profedigaeth (Rhwymedïol) 2023 (O.S. 2023/134) (“y Gorchymyn Rhwymedïol”) a ddaeth i rym ar 9 Chwefror 2023. Yn rhinwedd y Gorchymyn Rhwymedïol, estynnir hawlogaeth i fudd-daliadau profedigaeth i oroeswyr partneriaethau cyd-fyw a chanddynt blant dibynnol. Yn flaenorol, nid oedd y taliadau hyn ond ar gael i rieni cymwys mewn profedigaeth a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Diystyrir cyfandaliadau penodol o daliad cymorth profedigaeth a lwfans rhiant gweddw a wneir i oroeswyr partneriaethau cyd-fyw wrth gyfrifo cyfalaf ceisydd at ddibenion hawlogaeth i ostyngiad o ran y dreth gyngor. Bydd unrhyw gyfandaliad o daliad cymorth profedigaeth ar y gyfradd uwch fel y nodir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 yn cael ei ddiystyru am gyfnod o 52 o wythnosau, o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf. Bydd unrhyw gyfandaliad o daliad lwfans rhiant gweddw, a wneir i’r partner sy’n goroesi partneriaeth cyd-fyw o ganlyniad i farwolaeth sy’n digwydd cyn i’r Gorchymyn Rhwymedïol ddod i rym, yn cael ei ddiystyru. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(b) ac (c) a 18(b) ac (c).

Mae rheoliad 10 yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig o ganlyniad i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae’r diwygiad yn sicrhau, pan delir cronfeydd mynediad i fyfyrwyr ar sail ddisgresiynol gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, fod cronfeydd o’r fath yn cael eu hystyried wrth benderfynu cymhwystra am ostyngiad o ran y dreth gyngor. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 14.

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4(a) a (b), 5(a) i (c) ac (e), 7(a) a (b) ac 8 yn uwchraddio ffigurau penodol a ddefnyddir i gyfrifo a oes gan berson hawl i ostyngiad, ac os felly, swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn gymwys i ddidyniadau annibynyddion (addasiadau a wneir i uchafswm y gostyngiad y gall person ei gael gan ystyried oedolion sy’n byw yn yr annedd nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd) ac i’r swm cymwysadwy (y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef er mwyn penderfynu swm y gostyngiad, os oes un, y gall fod gan y ceisydd hawl i’w gael). Mae nifer o ffigurau eraill hefyd yn cael eu huwchraddio i adlewyrchu newidiadau i amryw hawlogaethau eraill. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 13(a) a (b), 15(a) i (c) ac (e) ac 16.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru .

(1)

1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17). Mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno, a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi. Gweler adran 116(1) o Ddeddf 1992 am y diffiniad o “prescribed”.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn adran 13A(8) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), fel y’i diwygiwyd gan adran 9 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), a pharagraff 2(7)(c) o Atodlen 1 iddi.

(4)

[2019] EWHC 606 (QB).

(6)

Gweler rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 am ystyr pob term.

(7)

Gweler https://www.infectedbloodinquiry.org.uk/reports/first-interim-report. Gellir cael copi caled oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn: The Department for Work and Pensions, Caxton House, Tothill Street, London SW1H 9NA.

(8)

2014 p. 19. Mae adran 30 wedi ei diwygio gan O.S. 2023/134.

(9)

Mewnosodwyd is-adran (6B) gan O.S. 2023/134.

(11)

1992 p. 4. Mewnosodwyd adran 39A gan adran 55(2) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30). Fe’i diwygiwyd wedi hynny gan adrannau 254(1) a 261(4) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), a pharagraff 20 o Atodlen 24, ac Atodlen 30 iddi; adran 1(3) o Ddeddf Budd-dal Plant 2005 (p. 6), a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi; adran 51 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p. 5); adran 31(5) o Ddeddf Pensiynau 2014, a pharagraff 12 o Atodlen 16 iddi; O.S. 2014/560; O.S. 2014/3229, O.S. 2019/1458 ac O.S. 2023/134. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.