xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Amnewid rheoliad 7 (pecynwaith cartref)

8.  Yn lle rheoliad 7 rhodder—

Pecynwaith cartref

7.(1)  Yn y Rheoliadau hyn, “pecynwaith cartref” yw pecynwaith cynradd neu becynwaith cludo nad yw’n becynwaith cynradd nac yn becynwaith cludo sy’n dod o fewn paragraff (2).

(2) Nid yw’r pecynwaith cynradd na’r pecynwaith cludo a ganlyn i’w trin fel pecynwaith cartref—

(a)pecynwaith a gyflenwir i fusnes neu sefydliad cyhoeddus sy’n ddefnyddiwr terfynol y pecynwaith hwnnw;

(b)pecynwaith ar gyfer cynnyrch—

(i)pan fo’r cynnyrch wedi ei gynllunio i’w ddefnyddio gan fusnes neu sefydliad cyhoeddus yn unig, a

(ii)pan nad yw’n rhesymol debygol y bydd y pecynwaith ar gyfer y cynnyrch hwnnw yn cael ei waredu mewn bin cartref na bin cyhoeddus;

(c)pecynwaith a fewnforir i’r Deyrnas Unedig gan fewnforiwr a’i daflu yn y Deyrnas Unedig gan y mewnforiwr hwnnw.

(3) Nid yw pecynwaith i’w drin fel pe bai’n dod o fewn paragraff (2)(a) neu (b) oni bai bod y cynhyrchydd sy’n cyflenwi’r pecynwaith hwnnw yn gallu darparu tystiolaeth—

(a)yn achos paragraff (2)(a), y cyflenwir y pecynwaith i fusnes neu sefydliad cyhoeddus nad yw’n cyflenwi i unrhyw berson arall—

(i)y pecynwaith, neu

(ii)y cynnyrch y mae’r pecynwaith yn ei gynnwys ar ei ffurf becynedig;

(b)yn achos paragraff (2)(b)—

(i)bod y cynnyrch o dan sylw yn bodloni’r gofyniad ym mharagraff (2)(b)(i), a

(ii)bod y pecynwaith ar gyfer y cynnyrch hwnnw yn bodloni’r gofyniad ym mharagraff (2)(b)(ii).

(4) At ddibenion paragraff (2)(b), ystyr “pecynwaith ar gyfer cynnyrch” yw—

(a)pecynwaith a gyflenwir gyda chynnyrch sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff (2)(b) (“cynnyrch busnes”), a

(b)pecynwaith nas llanwyd sydd wedi ei wneud i’w ddefnyddio gyda chynnyrch busnes, ar yr amod bod gan gyflenwr y pecynwaith hwnnw dystiolaeth y bydd y pecynwaith yn cael ei ddefnyddio gyda chynnyrch busnes.

(5) At ddibenion paragraff (3)(a)(ii), mae cynnyrch i’w drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi ar ei ffurf becynedig oni bai bod yr holl becynwaith wedi ei dynnu ymaith o’r cynnyrch cyn ei gyflenwi i ddefnyddiwr terfynol y cynnyrch hwnnw.

(6) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 7A, mae’r sefydliadau a’r personau a ganlyn i’w trin fel sefydliadau cyhoeddus—

(a)ysgol, prifysgol, neu sefydliad addysgol arall;

(b)ysbyty neu bractis ymarferydd meddygol cyffredinol neu ddeintydd;

(c)cartref nyrsio neu gartref preswyl arall;

(d)adran o’r llywodraeth;

(e)awdurdod perthnasol;

(f)llys neu dribiwnlys;

(g)person sydd wedi ei sefydlu neu ei benodi gan neu o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus;

(h)elusen neu gorff nid-er-elw arall;

(i)sefydliad cosbi.

(7) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “corff nid-er-elw” (“not for profit body”) yw corff—

(a)

y mae’n ofynnol iddo (ar ôl iddo dalu alldaliadau), yn rhinwedd ei gyfansoddiad neu unrhyw ddeddfiad, gymhwyso’r cyfan o’i incwm, ac unrhyw gyfalaf y mae’n ei wario, at ddibenion elusennol neu gyhoeddus, a

(b)

sydd wedi ei wahardd, yn rhinwedd ei gyfansoddiad neu unrhyw ddeddfiad, rhag dosbarthu unrhyw ran o’i asedau yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ymhlith ei aelodau ac eithrio at ddibenion elusennol neu gyhoeddus;

ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi ei gofrestru ar y gofrestr o ddeintyddion a gedwir o dan adran 14(1) o Ddeddf Deintyddion 1984(1);

ystyr “ymarferydd meddygol cyffredinol” (“general medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru ar y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol a gedwir gan y Cyngor Cyffredinol o dan adran 34C o Ddeddf Meddygaeth 1983(2).

(8) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 7A—

(a)ystyr “bin cartref” yw cynhwysydd sydd wedi ei gynllunio i gasglu deunydd gwastraff o gartref nad yw’n fusnes nac yn sefydliad cyhoeddus;

(b)ystyr “bin cyhoeddus” yw cynhwysydd—

(i)a gynhelir gan awdurdod perthnasol mewn stryd neu fan cyhoeddus, a

(ii)sydd wedi ei gynllunio i gasglu deunydd gwastraff.

(1)

1984 p. 24; diwygiwyd adran 14(1) gan O.S. 2005/2011; mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

1983 p. 54. Mewnosodwyd adran 34C gan baragraff 10 o Atodlen 1 i O.S. 2010/234.