Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig

2.—(1Mae Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 30 (rhyddhadau)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio);” mewnosoder—

Atodlen 21A (rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig);;

(b)yn is-adran (2), ar ôl “paragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio);” mewnosoder—

paragraff 6 o Atodlen 21A (rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig);;

(c)yn is-adran (3), ar ôl “paragraffau 6 ac 8 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau rhannol mewn amgylchiadau penodol).” mewnosoder—

paragraff 7 o Atodlen 21A (rhyddhad rhannol ar gyfer safleoedd treth arbennig).

(3Yn adran 49 (dychwelyd ffurflen dreth bellach pan dynnir rhyddhad yn ôl)—

(a)ar ôl is-adran (1)(e), mewnosoder—

(f)Atodlen 21A (rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig).;

(b)ar ôl is-adran (3)(e), mewnosoder—

(f)mewn perthynas â thynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer safleoedd treth arbennig o dan Atodlen 21A, y diwrnod olaf yn y cyfnod rheoli y mae’r tir cymhwysol yn peidio â chael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig mewn amgylchiadau pan na fo’r eithriadau yn is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 10 o’r Atodlen honno yn gymwys.;

(c)ar ôl is-adran (3), mewnosoder—

(3A) Yn is-adran (3)(f), mae “cyfnod rheoli”, “modd cymhwysol” a “tir cymhwysol” i’w dehongli yn unol ag Atodlen 21A.

(4Yn Atodlen 6 (lesoedd)—

(a)ym mharagraff 22(4), ar ôl paragraff (f), mewnosoder—

(g)Atodlen 21A (rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig).;

(b)ym mharagraff 22(5), yn lle “neu’n rhyddhad elusennau” rhodder “, yn rhyddhad elusennau neu’n rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig”;

(c)ym mharagraff 22(6), ar ôl paragraff (c), mewnosoder—

(d)mewn perthynas â thynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer safleoedd treth arbennig o dan Atodlen 21A, y diwrnod olaf yn y cyfnod rheoli y mae’r tir cymhwysol yn peidio â chael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig mewn amgylchiadau pan na fo’r eithriadau yn is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 10 o’r Atodlen honno yn gymwys.;

(d)ar ôl paragraff 22(6), mewnosoder—

(7) Yn is-baragraff (6)(d), mae “cyfnod rheoli”, “modd cymhwysol” a “tir cymhwysol” i’w dehongli yn unol ag Atodlen 21A.

(5Ar ôl Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio), mewnosoder—

ATODLEN 21ARHYDDHAD AR GYFER SAFLEOEDD TRETH ARBENNIG

RHAN 1Termau allweddol

Ystyr tir y trafodiad

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “tir y trafodiad”, mewn perthynas â thrafodiad tir, yw tir y mae buddiant trethadwy ynddo yn destun y trafodiad.

Ystyr safle treth arbennig

2.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “safle treth arbennig” yw’r ardal a ddynodir yn ardal arbennig gan Reoliadau Dynodi Safleoedd Treth Arbennig (Porthladd Rhydd Celtaidd) 2024(1) fel y’u gwnaed ar 16 Hydref 2024.

Ystyr tir cymhwysol

3.  At ddibenion yr Atodlen hon, mae tir y trafodiad yn “tir cymhwysol” os, ar y dyddiad y mae’r trafodiad tir yn cael effaith—

(a)y’i lleolir mewn safle treth arbennig, a

(b)yw’r prynwr yn bwriadu iddo gael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig.

Ystyr modd cymhwysol

4.(1) At ddibenion yr Atodlen hon, defnyddir tir y trafodiad mewn modd cymhwysol os y’i defnyddir mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn—

(a)fe’i defnyddir gan y prynwr neu berson cysylltiedig yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol;

(b)fe’i datblygir neu fe’i hailddatblygir gan y prynwr neu berson cysylltiedig i’w ddefnyddio (gan unrhyw berson) yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol;

(c)ymelwir arno gan y prynwr neu berson cysylltiedig, yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol, fel ffynhonnell rhenti neu dderbyniadau eraill (ac eithrio rhenti wedi eu heithrio).

(2) Ond ni ddefnyddir tir y trafodiad mewn modd cymhwysol i’r graddau—

(a)y’i defnyddir fel annedd neu fel gardd neu diroedd annedd (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur arall ar dir o’r fath),

(b)y’i datblygir neu y’i hailddatblygir yn eiddo preswyl,

(c)yr ymelwir arno fel ffynhonnell rhenti neu dderbyniadau eraill sy’n daladwy gan berson sy’n defnyddio’r tir ac eithrio mewn modd cymhwysol, neu

(d)y’i delir (fel stoc y busnes) i’w ailwerthu heb ei ddatblygu na’i ailddatblygu.

(3) Er gwaethaf is-baragraff (2), defnyddir tir y trafodiad mewn modd cymhwysol i’r graddau y’i defnyddir fel annedd neu fel gardd neu diroedd annedd a ddarperir i unigolyn a theulu’r unigolyn er mwyn cyflawni dyletswyddau cyflogaeth yr unigolyn yn well fel gofalwr tir y trafodiad neu unrhyw ran ohono neu fel aelod o’r staff diogelwch ar gyfer tir y trafodiad neu unrhyw ran ohono.

(4) At ddibenion y paragraff hwn, mae defnydd o dir yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol yn cynnwys defnydd o dir at ddiben sy’n ategol i’r defnydd o dir arall sydd—

(a)wedi ei leoli mewn safle treth arbennig, a

(b)yn cael ei ddefnyddio, neu’n cael ei ddatblygu neu ei ailddatblygu, yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol.

(5) Mae’r cyfeiriadau yn y paragraff hwn at wneud rhywbeth yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol yn cynnwys gwneud rhywbeth yng nghwrs busnes rhentu eiddo.

(6) Yn y paragraff hwn—

mae i “busnes rhentu eiddo” (“property rental business”) yr un ystyr â “property business” yn Neddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005 (p. 5) (gweler adran 263(6) o’r Ddeddf honno);

ystyr “masnachol” (“commercial”) mewn perthynas â masnach neu broffesiwn, yw ymgymryd â hi neu ag ef—

(a)

ar sail fasnachol, a

(b)

gyda’r bwriad o wneud elw;

ystyr “rhenti wedi eu heithrio” (“excluded rents”) yw incwm o fewn unrhyw un neu ragor o ddosbarthau 1 i 6 yn y tabl yn adran 605(2) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

RHAN 2Y Rhyddhad

Ystyr cyfnod rhyddhad

5.  Yn y Rhan hon, ystyr y “cyfnod rhyddhad” yw’r cyfnod sy’n dechrau â 26 Tachwedd 2024 ac sy’n dod i ben â 30 Medi 2029.

Rhyddhad llawn

6.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—

(a)yw 100% o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir i’w phriodoli i dir cymhwysol, a

(b)yw’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith o fewn y cyfnod rhyddhad.

(2) Mae’r trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth.

Rhyddhad rhannol

7.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—

(a)yw cyfran y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir sydd i’w phriodoli i dir cymhwysol (“y gyfran berthnasol”) yn llai na 100%, a

(b)yw’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith o fewn y cyfnod rhyddhad.

(2) Mae’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad tir wedi ei gostwng gan gyfran sy’n cyfateb i’r gyfran berthnasol.

Priodoli cydnabyddiaeth drethadwy i dir

8.(1) At ddibenion yr Atodlen hon, rhaid pennu’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i dir cymhwysol ar sail gyfiawn a rhesymol.

(2) Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys os yw llai na 100% o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli i dir y trafodiad sydd wedi ei leoli mewn safle treth arbennig (“y gydnabyddiaeth safle treth”) i’w phriodoli i dir sy’n bodloni’r amod ym mharagraff 3(b).

(3) Os yw o leiaf 90% o’r gydnabyddiaeth safle treth i’w phriodoli i dir sy’n bodloni’r amod ym mharagraff 3(b) , yna, at ddibenion yr Atodlen hon, mae’r holl gydnabyddiaeth safle treth i’w thrin fel pe bai i’w phriodoli i dir cymhwysol.

(4) Os yw llai na 10% o’r gydnabyddiaeth safle treth i’w phriodoli i dir sy’n bodloni’r amod ym mharagraff 3(b), yna, at ddibenion yr Atodlen hon, mae’r holl gydnabyddiaeth safle treth i’w thrin fel pe na bai i’w phriodoli i dir cymhwysol.

Contract a gwblheir drwy drosglwyddiad ar ôl diwedd y cyfnod rhyddhad

9.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—

(a)trinnir trafodiad tir fel pe bai’n cael effaith o dan adran 10(4) o ganlyniad i gontract yn cael ei gyflawni yn sylweddol heb ei gwblhau,

(b)yw’r trafodiad hwnnw wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 6 neu 7, ac

(c)cwblheir y contract a grybwyllir ym mharagraff (a) wedi hynny drwy drosglwyddiad ar ôl diwedd y cyfnod rhyddhad.

(2) Nid yw adran 10(5)(b) yn gymwys mewn perthynas â’r trafodiad a grybwyllir yn is-baragraff (1)(c) os mai’r unig reswm y byddai wedi bod yn gymwys (heblaw am y paragraff hwn) yw bod y trafodiad wedi digwydd ar ôl diwedd y cyfnod rhyddhad.

(3) Yn y paragraff hwn, mae “contract”, “cwblheir” a “trosglwyddiad” i’w dehongli yn unol ag adran 10(10).

RHAN 3Tynnu rhyddhad yn ôl

Tynnu rhyddhad yn ôl

10.(1) Yn y Rhan hon, cyfeirir at drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth o dan Ran 2 fel “trafodiad sydd wedi ei ryddhau”; ac yn unol â hynny mae cyfeiriadau at “prynwr” a “tir cymhwysol” yn gyfeiriadau at y prynwr a’r tir cymhwysol yn y trafodiad sydd wedi ei ryddhau.

(2) Caiff rhyddhad ei dynnu’n ôl mewn perthynas â thrafodiad sydd wedi ei ryddhau os na ddefnyddir y tir cymhwysol mewn modd cymhwysol yn unig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod rheoli.

(3) Ond nid yw’r rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl pan, oherwydd newid mewn amgylchiadau nas rhagwelwyd ac sydd y tu hwnt i reolaeth y prynwr, nad yw’n rhesymol disgwyl i’r tir cymhwysol gael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig ar yr adeg honno.

(4) Pan na ddechreuwyd defnyddio’r cyfan o’r tir cymhwysol neu ran ohono mewn modd cymhwysol, ar adeg yn ystod y cyfnod rheoli, mae’r tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio mewn modd cymhwysol yn unig os oes camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau y’i defnyddir yn y modd hwnnw.

(5) Pan fo’r defnydd o’r cyfan o’r tir cymhwysol neu ran ohono mewn modd cymhwysol, ar adeg yn ystod y cyfnod rheoli, wedi peidio, mae’r tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio mewn modd cymhwysol yn unig os oes camau rhesymol yn cael eu cymryd—

(a)i sicrhau y’i defnyddir yn y modd hwnnw, neu

(b)i waredu’r holl fuddiannau trethadwy yn y tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, a ddelir gan y prynwr a phersonau cysylltiedig mewn modd amserol.

Y cyfnod rheoli

11.(1) Yn yr Atodlen hon, ystyr y “cyfnod rheoli”, mewn perthynas â thrafodiad sydd wedi ei ryddhau, yw’r byrraf o—

(a)y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw’n cael effaith, a

(b)y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw’n cael effaith ac sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad terfynol yn cael effaith.

(2) At ddibenion y paragraff hwn, trafodiad tir yw’r trafodiad terfynol os nad yw’r prynwr na pherson cysylltiedig yn dal buddiant trethadwy yn y tir cymhwysol yn union ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (pa un ai o ganlyniad i’r trafodiad hwnnw yn unig neu o ganlyniad i’r trafodiad hwnnw a thrafodiadau tir eraill).

(3) At ddibenion is-baragraff (2), trinnir y prynwr neu berson cysylltiedig fel pe na bai ganddo fuddiant trethadwy yn y tir cymhwysol os yw gwerth marchnadol y buddiant trethadwy yn y tir cymhwysol y mae’r prynwr neu berson cysylltiedig yn ei ddal yn llai na £40,000, oni bai bod is-baragraff (4) yn gymwys.

(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os—

(a)yw’r prynwr ac unrhyw berson cysylltiedig yn dal rhyngddynt fwy nag un buddiant trethadwy yn y tir cymhwysol, a

(b)yw cyfanswm gwerth marchnadol y buddiannau trethadwy hynny yn £40,000 neu fwy.

Gwaredu buddiant mewn rhan o dir cymhwysol yn ystod y cyfnod rheoli

12.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r prynwr yn peidio â dal buddiant trethadwy mewn rhan o’r tir cymhwysol yn ystod y cyfnod rheoli.

(2) Mae’r cyfeiriadau at y tir cymhwysol ym mharagraffau 10 ac 11 i’w trin fel cyfeiriadau at y rhan yn unig o’r tir cymhwysol y mae’r prynwr yn dal buddiant trethadwy mewn perthynas â hi o hyd (pa un ai’r buddiant trethadwy a gaffaelwyd yn y trafodiad tir sydd wedi ei ryddhau rhag treth o dan Ran 2 o’r Atodlen hon neu fuddiant trethadwy arall).

RHAN 4TREFNIANT CYLLID ARALL

Cyllid Eiddo Arall

13.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r naill neu’r llall o’r canlynol yn gymwys—

(a)paragraff 2(1) o Atodlen 10 (tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson), neu

(b)paragraff 3(1) o Atodlen 10 (tir a werthir i sefydliad ariannol ac a ailwerthir i berson).

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion penderfynu—

(a)a ellir hawlio rhyddhad o dan Ran 2 o’r Atodlen hon ar gyfer y trafodiad cyntaf, a

(b)a yw’r rhyddhad ar gyfer y trafodiad cyntaf yn cael ei dynnu’n ôl o dan Ran 3 o’r Atodlen hon.

(3) At y dibenion hynny, mae’r Atodlen hon yn cael effaith fel pe bai—

(a)cyfeiriadau at y prynwr yn gyfeiriadau at y person perthnasol, a

(b)y cyfeiriad ym mharagraff 4(2)(d) at dir a ddelir (fel stoc ar gyfer y busnes) i’w ailwerthu heb ei ddatblygu na’i ailddatblygu yn gyfeiriad at dir a ddelir yn y modd hwnnw gan y person perthnasol.

(4) Nid yw’r trafodiad cyntaf yn gymwys am ryddhad o dan Ran 2 o’r Atodlen hon ac eithrio pan fo’n gwneud hynny yn rhinwedd y paragraff hwn.

(5) Yn y paragraff hwn—

ystyr “y person perthnasol” (“the relevant person”) yw’r person, ac eithrio’r sefydliad ariannol, a ymrwymodd i’r trefniadau a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 10 (fel y bo’n briodol).”;

mae i “y trafodiad cyntaf” (“the first transaction”) yr un ystyr ag ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 10 (fel y bo’n briodol).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill