Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchmynion Cychwyn Rhif 5, Rhif 6, Rhif 8, Rhif 13 a Rhif 14) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

4.—(1Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl erthygl 9 mewnosoder—

9A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.

(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.

(3) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw..

(3Yn erthygl 10—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “erthygl 9” mewnosoder “na 9A”.

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “2023-2024” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025”.

(4Yn erthygl 11(1), ar ôl “erthyglau 9” mewnosoder “, 9A”.

(5Yn erthygl 13(1), ar ôl “erthyglau 9,” mewnosoder “9A,”.

(6Ar ôl erthygl 17 mewnosoder—

17A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,

(c)nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024,

(d)nad yw erthygl 17B yn gymwys iddo, ac

(e)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.

(2) Ar 31 Awst 2024—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

17B.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024,

(d)nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024, ac

(e)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.

(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.

17C.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac

(c)y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.

(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—

(a)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;

(b)oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred..

(7Yn erthygl 18, yn lle “2024”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “2025”.

(8Yn erthygl 19(1), yn lle “2024”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “2025”.

(9Yn erthygl 20(1)(b), yn lle “2024” rhodder “2025”.

(10Yn erthygl 24(4)(a)—

(a)yn y testun Saesneg, ar ôl “9(2),” mewnosoder “9A(2),”;

(b)yn y testun Cymraeg, yn lle “9(2) a” rhodder “9(2), 9A(2),”.

(11Yn erthygl 25(3)(a), ar ôl “9(2),” mewnosoder “9A(2),”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill