- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 1(2), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;”.
(3) Ar ôl erthygl 10 mewnosoder—
“10A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.”.
(4) Yn erthygl 11—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “9 na 10” rhodder “9, 10 na 10A”.
(b)ym mharagraff (2), ar ôl “2023-2024” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025”.
(5) Yn erthygl 13(1) ar ôl “10,” mewnosoder “10A,”.
(6) Ar ôl erthygl 16 mewnosoder—
“16A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024, ac
(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.”.
(7) Yn erthygl 17, yn lle “2024”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “2025”.
(8) Yn erthygl 23(1)(a), ar ôl “10(2)” mewnosoder “, 10A(2)”.
O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80) ac O.S. 2022/663 (Cy. 148) (C. 37).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys