NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliadau caffael cyhoeddus amrywiol yn y Deyrnas Unedig at ddiben rhoi dau Gytundeb Masnach Rydd y mae’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo iddynt ar waith, un ag Awstralia (“CMR y DU-Awstralia”) a’r llall â Seland Newydd (“CMR y DU-Seland Newydd”).
Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn rhoi CMR y DU-Awstralia a CMR y DU-Seland Newydd ar waith, yn ogystal â gwneud tair set o ddiwygiadau sy’n gymwys yn gyffredinol o dan adran 1(2) o Ddeddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023 (p. 9). Mae angen y diwygiadau hyn sy’n gymwys yn gyffredinol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag ymrwymiadau a wneir yn CMR y DU-Awstralia.
Mae’r set gyntaf o ddiwygiadau sy’n gymwys yn gyffredinol yn cyflwyno’r rheol, pan na ellir amcangyfrif gwerth caffaeliad, fod y caffaeliad i’w drin fel pe bai ei werth wedi ei bennu ar y trothwy perthnasol ar gyfer y math hwnnw o gaffaeliad. Gwneir y diwygiadau hyn i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (O.S. 2015/102) gan reoliad 2(3)(b), i Reoliadau Contractau Consesiwn 2016 (O.S. 2016/273) gan reoliad 3(3), ac i Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 (O.S. 2016/274) gan reoliad 4(3)(b).
Yn achos Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016, gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer y sefyllfa pan na ellir amcangyfrif gwerth un neu ragor o lotiau. Mae rheoliad 2(3)(a) yn gwneud y diwygiad perthnasol i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 ac mae rheoliad 4(3)(a) yn gwneud y diwygiad perthnasol i Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016.
Mae’r ail set o ddiwygiadau sy’n gymwys yn gyffredinol yn dileu’r posibilrwydd o ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw a hysbysiad dangosol cyfnodol, yn y drefn honno, fel yr alwad am gystadleuaeth. Gwneir y diwygiadau hyn i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 gan reoliad 2(2) a 2(5) i 2(25) ac i Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 gan reoliad 4(2) a 4(5) i 4(22).
Mae’r drydedd set o ddiwygiadau sy’n gymwys yn gyffredinol yn gwahardd awdurdodau contractio a chyfleustodau rhag terfynu contractau mewn modd sy’n osgoi rhwymedigaethau yn CMR y DU-Awstralia. Gwneir y diwygiadau hyn i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 gan reoliad 2(4), i Reoliadau Contractau Consesiwn 2016 gan reoliad 3(2), ac i Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 gan reoliad 4(4).
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 2(1)(d) o Ddeddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.