- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae “annedd” (“dwelling”) yn cynnwys fflat;
ystyr “cartref gofal” (“care home”) yw man lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1) yn cael ei ddarparu yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn;
ystyr “cartref plant” (“children’s home”) yw man lle y mae gwasanaeth cartref gofal neu wasanaeth llety diogel o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, ond nad yw’n—
sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y’i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2);
man lle y darperir llety at ddibenion—
gwyliau;
gweithgareddau hamdden, adloniadol, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;
oni bai bod person o dan 18 oed wedi ei letya yno am fwy na 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
ystyr “fflat” (“flat”) yw mangre ar wahân a hunangynhwysol sydd wedi ei hadeiladu neu ei haddasu i’w defnyddio at ddibenion preswyl ac sy’n ffurfio rhan o adeilad y caiff ei rhannu yn llorweddol o ryw ran arall ohono;
ystyr “hostel” (“hostel”) yw hostel sy’n darparu llety dros dro i’r rheini nad ydynt yn preswylio fel arfer yn rhywle arall;
ystyr “lefel y ddaear” (“ground level”), mewn perthynas ag adeilad, yw—
pan fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel arwyneb y ddaear yn union gyfagos i’r adeilad, neu
pan nad yw lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel y rhan isaf o arwyneb y ddaear yn union gyfagos i’r adeilad;
mae i “llu ar ymweliad” yr un ystyr â “visiting force” at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 1 o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(3);
mae i “lluoedd Ei Fawrhydi” yr un ystyr â “His Majesty’s forces” yn Neddf y Lluoedd Arfog 2006(4);
ystyr “sefydliad preswyl diogel” (“secure residential institution”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer darparu llety preswyl diogel, gan gynnwys defnydd ohono fel carchar, sefydliad troseddwyr ifanc, canolfan gadw, canolfan hyfforddi ddiogel, dalfa, canolfan aros tymor byr, ysbyty diogel neu lety diogel awdurdod lleol ar gyfer personau sy’n 18 oed neu’n hŷn;
ystyr “uned breswyl” (“residential unit”) yw—
annedd, neu
unrhyw uned llety byw arall sydd, er enghraifft, yn cynnwys ystafell mewn hostel, ystafell mewn neuadd breswylio neu lety arall ar gyfer myfyrwyr neu ddisgyblion;
ystyr “ysbyty” (“hospital”) yw ysbyty gwasanaeth iechyd o fewn ystyr Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(5) (gweler adran 206(1) o’r Ddeddf honno) neu ysbyty annibynnol o fewn ystyr Deddf Safonau Gofal 2000(6).
1992 p. 13. Diwygiwyd adran 91(3) gan baragraff 13(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22).
1952 p. 67. Gweler adran 12 o’r Ddeddf honno.
2006 p. 52. Gweler adran 374 o’r Ddeddf honno.
2000 p. 14. Gweler adran 2 o’r Ddeddf honno.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys