- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Gwnaed
15 Tachwedd 2023
Yn dod i rym
1 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 120A(3) a 120I(2), (4) a (5)(a) o Ddeddf Adeiladu 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 120C(2)(2) o Ddeddf Adeiladu 1984 mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
Yn unol ag adran 120A(9) o Ddeddf Adeiladu 1984 gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2024.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae “annedd” (“dwelling”) yn cynnwys fflat;
ystyr “cartref gofal” (“care home”) yw man lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(3) yn cael ei ddarparu yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn;
ystyr “cartref plant” (“children’s home”) yw man lle y mae gwasanaeth cartref gofal neu wasanaeth llety diogel o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, ond nad yw’n—
sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y’i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(4);
man lle y darperir llety at ddibenion—
gwyliau;
gweithgareddau hamdden, adloniadol, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;
oni bai bod person o dan 18 oed wedi ei letya yno am fwy na 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
ystyr “fflat” (“flat”) yw mangre ar wahân a hunangynhwysol sydd wedi ei hadeiladu neu ei haddasu i’w defnyddio at ddibenion preswyl ac sy’n ffurfio rhan o adeilad y caiff ei rhannu yn llorweddol o ryw ran arall ohono;
ystyr “hostel” (“hostel”) yw hostel sy’n darparu llety dros dro i’r rheini nad ydynt yn preswylio fel arfer yn rhywle arall;
ystyr “lefel y ddaear” (“ground level”), mewn perthynas ag adeilad, yw—
pan fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel arwyneb y ddaear yn union gyfagos i’r adeilad, neu
pan nad yw lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel y rhan isaf o arwyneb y ddaear yn union gyfagos i’r adeilad;
mae i “llu ar ymweliad” yr un ystyr â “visiting force” at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 1 o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(5);
mae i “lluoedd Ei Fawrhydi” yr un ystyr â “His Majesty’s forces” yn Neddf y Lluoedd Arfog 2006(6);
ystyr “sefydliad preswyl diogel” (“secure residential institution”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer darparu llety preswyl diogel, gan gynnwys defnydd ohono fel carchar, sefydliad troseddwyr ifanc, canolfan gadw, canolfan hyfforddi ddiogel, dalfa, canolfan aros tymor byr, ysbyty diogel neu lety diogel awdurdod lleol ar gyfer personau sy’n 18 oed neu’n hŷn;
ystyr “uned breswyl” (“residential unit”) yw—
annedd, neu
unrhyw uned llety byw arall sydd, er enghraifft, yn cynnwys ystafell mewn hostel, ystafell mewn neuadd breswylio neu lety arall ar gyfer myfyrwyr neu ddisgyblion;
ystyr “ysbyty” (“hospital”) yw ysbyty gwasanaeth iechyd o fewn ystyr Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(7) (gweler adran 206(1) o’r Ddeddf honno) neu ysbyty annibynnol o fewn ystyr Deddf Safonau Gofal 2000(8).
3. At ddibenion adran 120I(2) o Ddeddf Adeiladu 1984 adeilad risg uwch yw adeilad (gan gynnwys strwythur)—
(a)sy’n—
(i)o leiaf 18 metr o uchder (pan gaiff ei fesur yn unol â rheoliad 4), neu
(ii)sydd ag o leiaf 7 llawr (pan gânt eu cyfrifo yn unol â rheoliad 5), a
(b)sy’n cynnwys—
(i)o leiaf un uned breswyl,
(ii)ysbyty sydd ag o leiaf un gwely y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan berson sydd wedi ei dderbyn i’r fangre ar gyfer arhosiad dros nos,
(iii)cartref gofal, neu
(iv)cartref plant, ac
(c)nad yw’n adeilad a eithrir (gweler rheoliad 6).
4.—(1) Mesurir uchder adeilad o lefel y ddaear hyd at ben uchaf arwyneb llawr llawr uchaf yr adeilad.
(2) Ond anwybyddir unrhyw lawr sy’n ardal peiriannau pen to neu gyfarpar pen to neu sy’n cynnwys ystafelloedd peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig.
5.—(1) Cyfrifir nifer y lloriau mewn adeilad yn y safle sy’n rhoi’r nifer mwyaf o loriau, yn ddarostyngedig i—
(a)anwybyddir unrhyw lawr sydd o dan lefel y ddaear;
(b)anwybyddir unrhyw lawr sy’n ardal peiriannau pen to neu gyfarpar pen to neu sy’n cynnwys ystafelloedd peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig;
(c)ystyrir unrhyw lawr mesanîn yn llawr os yw ei arwynebeddau llawr mewnol yn o leiaf hanner arwynebedd llawr mewnol y llawr mwyaf yn yr adeilad nad yw o dan lefel y ddaear.
(2) Mae llawr o dan lefel y ddaear os yw arwyneb gorffenedig nenfwd y llawr o dan lefel y ddaear.
6. Mae adeilad yn adeilad a eithrir—
(a)os yw’n cynnwys yn gyfan gwbl—
(i)sefydliad preswyl diogel,
(ii)gwesty,
(iii)barics milwrol,
(iv)llety byw a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, neu
(v)llety byw ar gyfer—
(aa)lluoedd ei Fawrhydi, neu
(bb)unrhyw lu ar ymweliad neu bencadlys rhyngwladol neu sefydliad amddiffyn a ddynodir at ddiben Deddf Pencadlys Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn 1964(9);
(b)os yw’n cynnwys defnydd preswyl a defnydd amhreswyl, lle y darperir yr holl lety byw gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diffinio’r hyn yw adeilad risg uwch at ddibenion adran 120I o Ddeddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”). Mae Rhan 3 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“Deddf 2022”), a fewnosododd adran 120I yn Neddf 1984, yn gwneud darpariaeth ar gyfer adeiladau risg uwch i fod yn ddarostyngedig i drefn reoleiddiol fanylach yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladu.
Mae rheoliad 3 yn diffinio adeilad risg uwch yn adeilad sydd naill ai’n o leiaf 18 metr o uchder neu sydd ag o leiaf 7 llawr, pan fo hefyd yn cynnwys o leiaf un uned breswyl neu pan fo’n ysbyty, yn gartref gofal neu’n gartref plant. Mae rheoliad 4 yn manylu ar sut y dylid mesur uchder adeilad. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y dylid cyfrifo nifer y lloriau sydd mewn adeilad. Mae rheoliad 6 yn rhestru adeiladau sydd wedi eu heithrio o’r diffiniad yn rheoliad 3 ac nad ydynt felly yn adeiladau risg uwch at ddibenion y drefn reoleiddiol fanylach.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
1984 p. 55. Mewnosodwyd adran 120A gan baragraff 77 o Atodlen 5 i Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (p. 30) a mewnosodwyd adran 120I gan adran 31 o’r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd adran 120C gan baragraff 77 o Atodlen 5 i Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.
1992 p. 13. Diwygiwyd adran 91(3) gan baragraff 13(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22).
1952 p. 67. Gweler adran 12 o’r Ddeddf honno.
2006 p. 52. Gweler adran 374 o’r Ddeddf honno.
2000 p. 14. Gweler adran 2 o’r Ddeddf honno.
1964 p. 5. Gellir gwneud dynodiadau o dan adran 1(1).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys