- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
16 Awst 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty”—
yn adran 312(2)(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn Lloegr,
yn adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn Lloegr;
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579(3) o Ddeddf 1996;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2)(4) o Ddeddf 2014;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision”—
yn adran 312(4)(5) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
yn adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(6);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(7);
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(8) o Ddeddf 1996;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(9) o Ddeddf 1996;
mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
ystyr “plentyn a addysgir ac eithrio yn yr ysgol” (“a child educated other than at school”) yw plentyn y mae awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwneud trefniadau i ddarparu addysg ac eithrio yn yr ysgol ar ei gyfer sydd o fewn ardal yr awdurdod ac—
sydd o oedran ysgol gorfodol, a
na all, oherwydd salwch, gwaharddiad o’r ysgol neu fel arall, gael addysg addas am gyfnod oni bai bod trefniadau o’r fath yn cael eu gwneud ar gyfer y plentyn;
mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(10);
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(11);
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)(12) o Ddeddf 1996;
mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
(4) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw’r plentyn yn ardal yr awdurdod.
2.—(1) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd”—
(a)os yw awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am P; a
(b)os oes gan P anhawster dysgu a nodwyd—
(i)gan berchennog yr ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi, neu
(ii)gan awdurdod lleol,
sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.
(2) Ond nid yw’n cynnwys plentyn—
(a)sy’n blentyn a addysgir ac eithrio yn yr ysgol;
(b)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru;
(c)sy’n blentyn sy’n derbyn gofal;
(d)y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;
(e)y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;
(f)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
(g)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
(h)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(iii)y dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
(i)y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
(j)y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(iii)y dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(k)y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cael ei chwblhau;
(l)y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
(m)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
(n)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36 o Ddeddf 2014, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw, y dyfarnwyd yn derfynol arni ac y gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
(o)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
(p)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw, y dyfarnwyd yn derfynol arni ac y gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(q)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—
(a)adrannau 2 i 4;
(b)adrannau 6 i 14;
(c)adrannau 17 i 36;
(d)adran 38;
(e)adrannau 40 i 44;
(f)adrannau 47 i 49;
(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h)adran 50(4) i (5);
(i)adrannau 51 i 53;
(j)adran 55;
(k)adran 59;
(l)adrannau 63 i 66;
(m)adrannau 68 i 69;
(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o)yn yr Atodlen—
(i)paragraff 1;
(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
(iii)paragraff 4(2) i 4(6);
(iv)paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi cael ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn(13);
(v)paragraff 4(8) i 4(10);
(vi)paragraff 4(13) i 4(18);
(vii)paragraff 4(19)(b);
(viii)paragraff 4(20) a 4(21);
(ix)paragraff 4(23) i 4(29);
(x)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xi)paragraff 7;
(xii)paragraff 8;
(xiii)paragraff 11(a);
(xiv)paragraff 12(a);
(xv)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
(xvi)paragraff 14(2) a (3);
(xvii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
(xviii)paragraff 19(5)(e)(ii);
(xix)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
(xx)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxi)paragraff 22;
(xxii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
(xxiii)paragraff 23(4);
(xxiv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Awst 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â’r rheini sydd o oedran ysgol gorfodol ac iau, sydd ag anghenion addysgol arbennig penodol a nodwyd (ond nid datganiad) ac sy’n cael eu haddysgu mewn ysgol annibynnol neu’n cael eu haddysgu gartref (erthygl 2).
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(14):
| Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| Adrannau 2 i 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)(15) | |
| Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) ( C. 12) | |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adrannau 9 i 14 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adran 16 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) (17) |
| Adrannau 17 i 20 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adrannau 22 i 31 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adrannau 33 i 35 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adran 38 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adrannau 40 i 44 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adrannau 48 i 49 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adrannau 51 i 53 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 54 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 55 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 56 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adrannau 57 i 58 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 59 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adrannau 63 i 64 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 66 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adrannau 68 i 69 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Adrannau 70 i 73 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adran 75 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 76 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 77 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adrannau 78 i 81 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| Adran 83 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 84 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 85 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adrannau 86 i 90 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 91 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 92 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adrannau 93 i 94 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 95 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 3 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| (yn rhannol) | 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
| Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraffau 9 a 10 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 11(b) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 12(b) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 13 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraffau 17 a 18 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
| (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 20 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
| 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
| Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) (18) |
Diwygiwyd gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 2, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8.
Amnewidiwyd y diffiniad o “local authority” gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.
Diwygiwyd gan Ddeddf Gofal 2014 a Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/914), erthygl 2 a pharagraff 97 o’r Atodlen.
Diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.
Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a paragraff 111 o Atodlen 30, a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7(3) o Atodlen 2.
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o’r Ddeddf.
Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.
Mae paragraff 4(7) (“y ddarpariaeth”) wedi ei ddiddymu gan baragraff 75 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) (“Deddf 2021”). Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth wedi ei harbed gan Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022 (O.S. 2022/111 (Cy. 39)) mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm (h.y. nad yw Ddeddf 2021 wedi cychwyn mewn perthynas ag ef). Effaith y ddarpariaeth arbed honno yw bod paragraff 4(7) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn parhau mewn grym hyd nes y darperir addysg o dan Ddeddf 2021 i’r disgybl neu’r plentyn.
Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/891 (Cy. 188) (C. 55)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/892 (Cy. 189) (C. 56)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022 (O.S. 2022/893 (Cy. 190) (C. 57)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 12) 2022 (O.S. 2022/895 (Cy. 192) (C. 59)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/896 (Cy. 193) (C. 60)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 14 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/897 (Cy. 194) (C. 61)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 15) 2022 (O.S. 2022/898 (Cy. 195) (C. 62)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.
Diwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).
Diwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).
Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys