Diwygio Atodlen 12
3. Ym mharagraff 1(1), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “MAS wedi ei throsi” (“converted AAO”) yw contract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn feddiannaeth amaethyddol sicr;
mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” yr un ystyr ag a roddir i “assured agricultural occupancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (gweler adran 24(1) o’r Ddeddf honno)
mae “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) yn cynnwys cyfeiriad at feddiannaeth amaethyddol sicr a drinnir fel tenantiaeth sicr o dan adran 24(3) o Ddeddf Tai 1988 (yn ogystal â meddiannaeth amaethyddol sicr sy’n denantiaeth sicr);”