- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Gwnaed
24 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
27 Ionawr 2022
Yn dod i rym
15 Chwefror 2022
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Chwefror 2022.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn—
(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)yn gymwys mewn perthynas â—
(i)cychod pysgota Cymreig ar y môr, ym mha le bynnag y bônt;
(ii)cychod pysgota perthnasol sy’n pysgota yng Nghymru neu ym mharth Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw llestr bysgota o lai na 12 metr o hyd sydd—
wedi ei chofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(3) ac y mae ei chofnod yn y gofrestr honno yn pennu porthladd yng Nghymru y mae’r llestr i’w thrin fel pe bai yn perthyn iddo; a
wedi ei thrwyddedu o dan adran 15 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020;
ystyr “cwch pysgota perthnasol” (“relevant fishing boat”) yw llestr bysgota o lai na 12 metr o hyd sydd wedi ei thrwyddedu o dan adran 15 neu adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020(4), ac eithrio cwch pysgota Cymreig;
ystyr “dyfais fonitro” (“monitoring device”) yw dyfais sydd â rhif adnabod unigryw ac sy’n gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol bob 30 eiliad;
ystyr “gweithrediadau pysgota” (“fishing operations”) yw dal pysgod ac mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n ategol i hynny;
ystyr “hyd” (“length”) mewn perthynas â chwch pysgota, yw’r hyd a gyfrifir yn unol â’r rheolau a bennir yn Erthygl 2(1) o Reoliad (EU) 2017/1130 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 14 Mehefin 2017 sy’n diffinio nodweddion llestrau pysgota(5);
ystyr “IRCS” (“IRCS”) yw arwydd galwad radio rhyngwladol y cwch pysgota(6);
ystyr “y person sydd â gofal” (“the person in charge”) yw perchennog, meistr neu siartrwr, os oes un, y cwch pysgota;
ystyr “Rhif Cofrestr Fflyd” (“Fleet Register Number”) yw—
y rhif cofrestr fflyd y Deyrnas Unedig a aseiniwyd i’r llestr gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel y cyfeirir ato yn Erthygl 8 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2017/218(7); neu
y rhif cofrestr fflyd gyffredin a aseiniwyd i’r llestr gan Aelod-wladwriaeth fel y cyfeirir ato yn Erthygl 8 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/218 ar gofrestr fflyd bysgota’r Undeb(8);
ystyr “yr wybodaeth ofynnol” (“the required information”) yw’r wybodaeth a bennir yn erthygl 4.
3.—(1) Ni chaniateir i’r cwch pysgota ymgymryd â gweithrediadau pysgota oni bai—
(a)bod dyfais fonitro wedi ei gosod arno;
(b)yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru ynghylch—
(i)rhif adnabod unigryw’r ddyfais fonitro;
(ii)enw’r cwch pysgota y mae’r ddyfais fonitro wedi ei gosod arno;
(iii)Rhif Cofrestru Fflyd neu IRCS y cwch pysgota; ac
(c)bod y ddyfais fonitro yn trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol i Weinidogion Cymru o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeng munud.
(2) Pan fo’r cwch pysgota yn cael ei ddefnyddio yn groes i baragraff (1), mae’r person sydd â gofal amdano yn euog o drosedd.
4. Yr wybodaeth ofynnol yw—
(a)rhif adnabod unigryw’r ddyfais fonitro;
(b)safle daearyddol diweddaraf y cwch hwnnw gan ddefnyddio cyfesurynnau lledred a hydred ar System Geodetig y Byd 1984(9), gyda chyfeiliornad safle o lai na 10 metr;
(c)dyddiad ac amser, wedi eu mynegi mewn Amser Cyffredinol Cyd-drefnedig, unrhyw safle daearyddol y cwch hwnnw; a
(d)cyflymder a chwrs y cwch hwnnw ar yr adeg honno.
5. Rhaid i’r person sydd â gofal am y cwch pysgota wneud pob ymdrech resymol i sicrhau—
(a)nad oes modd gwrthwneud y ddyfais fonitro â llaw;
(b)nad yw’r ddyfais fonitro yn cael ei dinistrio, ei difrodi, ei gwneud yn anweithredol, neu nas amherir â hi fel arall;
(c)nad yw unrhyw antena sy’n gysylltiedig â’r ddyfais fonitro yn cael ei rwystro mewn unrhyw ffordd; a
(d)nad yw’r cyflenwad pŵer i’r ddyfais fonitro yn cael ei dorri.
6.—(1) Os nad yw’r ddyfais fonitro ar fwrdd y cwch pysgota yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol, rhaid i’r person sydd â gofal, ar yr adeg y mae’n gwybod, neu y gellir disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod y ddyfais wedi stopio trosglwyddo’r wybodaeth—
(a)hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw’r ddyfais fonitro yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol; a
(b)sicrhau nad yw’r cwch pysgota yn ymgymryd ag unrhyw weithrediadau pysgota pellach hyd nes y gall y ddyfais fonitro drosglwyddo’r wybodaeth berthnasol yn unol ag erthygl 3(1)(c) a bod hysbysiad ynghylch hynny wedi ei roi i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)(a) neu (b) gynnwys—
(a)rhif adnabod unigryw’r ddyfais fonitro;
(b)enw’r cwch pysgota y mae’r ddyfais fonitro wedi ei gosod arno;
(c)Rhif Cofrestru Fflyd neu IRCS y cwch pysgota; a
(d)pan fo hynny’n hysbys i’r person sydd â gofal—
(i)yr amser pryd stopiodd y ddyfais fonitro drosglwyddo’r wybodaeth ofynnol;
(ii)y rheswm neu’r rhesymau dros fethiant y ddyfais fonitro i weithio’n gywir;
(iii)pa elfen o’r wybodaeth ofynnol nad yw’r ddyfais fonitro berthnasol yn gallu ei throsglwyddo.
Lesley Griffiths,
y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran cychod pysgota Cymreig (ym mha le bynnag y bônt) a chychod pysgota perthnasol sy’n pysgota yng Nghymru neu ym mharth Cymru. Mae’n rheoleiddio pysgota ar y môr a daw i rym ar 15 Chwefror 2022.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn, gan gynnwys y diffiniad o “cwch pysgota Cymreig” a “cwch pysgota perthnasol” at ddibenion y Gorchymyn hwn.
Mae paragraff (1) o erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gychod pysgota Cymreig, wrth bysgota yn y môr, a chychod pysgota perthnasol, wrth bysgota yng Nghymru neu ym mharth Cymru, i fod â dyfais fonitro ar eu bwrdd, i hysbysu Gweinidogion Cymru am faterion penodol ac i wybodaeth benodol (yr wybodaeth ofynnol) gael ei throsglwyddo i Weinidogion Cymru o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeng munud. Mae paragraff (2) o erthygl 3 yn darparu bod perchennog, meistr a siartrwr (os oes un) (y person sydd â gofal) yn euog o drosedd os defnyddir y cwch pysgota yn groes i baragraff (1).
Mae erthygl 4 yn rhagnodi’r wybodaeth ofynnol y mae rhaid ei throsglwyddo i Weinidogion Cymru.
Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer rhwymedigaethau parhaus ar y person sydd â gofal o ran y ddyfais fonitro.
Mae erthygl 6 yn nodi gofynion penodol sy’n gymwys i’r person sydd â gofal os nad yw’r ddyfais fonitro yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol.
Yn rhinwedd adran 5(4) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77), mae torri’r Gorchymyn hwn yn drosedd sy’n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy ddiderfyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1968 p. 77 (“Deddf 1968”). Diwygiwyd adran 5(1) gan adran 4(2) o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p. 86). Gweler adran 19 o Ddeddf 1968 am ddiffiniad o “the Ministers”; diwygiwyd y diffiniad o “the Ministers” yn adran 19 gan O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan I, paragraff 48(1) a (5)(c).
Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy’n arferadwy o dan adran 5 o Ddeddf 1968 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru (gan weithredu ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron y mae’r pwerau hynny yn arferadwy ganddynt ynghylch adnabod a marcio cychod pysgota). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o eiddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Yn rhinwedd erthyglau 4(1)(c) a 5(1)(c) o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760), trosglwyddwyd ymhellach swyddogaethau sy’n arferadwy o dan adran 5 o Ddeddf 1968 i Weinidogion Cymru mewn perthynas â pharth Cymru (gan weithredu ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron y mae’r pwerau hynny yn arferadwy ganddynt o dan adran 5 ynghylch adnabod a marcio cychod pysgota). Yn rhinwedd adran 59A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 2(1) a (2)(c) o Atodlen 3A iddi, trosglwyddwyd ymhellach swyddogaethau sy’n arferadwy o dan adran 5 o Ddeddf 1968 i Weinidogion Cymru mewn perthynas a chychod pysgota Cymreig y tu hwnt i derfyn parth Cymru (gan weithredu ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron y mae’r pwerau hynny yn arferadwy ganddynt mewn perthynas â swyddogaethau o dan adran 5(1) a (2)(a) o Ddeddf 1968). Gweler paragraff 2(4) o Atodlen 3A am y diffiniad o “Welsh fishing boat” (“cwch pysgota Cymreig”).
1995 p. 21. Diwygiwyd Rhan 2 gan O.S. 2002/794 ac O.S.2015/664.
EUR 2017/1130.
Dyrennir yr arwydd galwad radio rhyngwladol i gwch pysgota gan yr awdurdod telathrebu cenedlaethol i bob llestr sydd â chyfarpar radio ar ei bwrdd, fel rhan o’r broses trwyddedu radio. Dyrennir cyfres o arwyddion galwad i bob gwlad gan yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol.
EUR 2017/218.
OJ Rhif L 34, 9.2.2017, t. 9.
Mae System Geodetig y Byd 1984 (“WGS 84”) yn diffinio ffrâm gyfeirio ar gyfer y ddaear, i’w defnyddio ym maes geodeseg a mordwyaeth. Fe’i datblygwyd gan Asiantaeth Gwybodaeth Geo-ofodol yr Unol Daleithiau, a chaiff ei chynnal ganddi. Diffinnir WGS 84 ym mharagraff 2.1 o Adroddiad Technegol Asiantaeth Genedlaethol Delweddau a Mapiau’r Unol Daleithiau TR8350.2, trydydd argraffiad, diwygiad 1 dyddiedig 3 Ionawr 2000 o’r enw “Department of Defense World Geodetic System 1984” https://gis-lab.info/docs/nima-tr8350.2-wgs84fin.pdf.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys