xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 370 (Cy. 90)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022

Gwnaed

23 Mawrth 2022

Yn dod i rym

1 Ebrill 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 12A(13)(a), 12B(12) a 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adrannau 12A(14) a 12B(13) o’r Ddeddf honno(2).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2022.

Diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

2.  Yn adrannau 12A(1)(b) a 12B(1)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, yn lle “100” rhodder “300”.

Darpariaeth drosiannol

3.  At ddiben y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 yn unig, mae’r cyfeiriadau at “300” a fewnosodir gan reoliad 2 yn adran 12A(1)(b) a 12B(1)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i’w dehongli fel cyfeiriadau at “100”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

23 Mawrth 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adrannau 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i ddarparu, ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, y caiff awdurdod bilio yng Nghymru benderfynu mewn perthynas â’i ardal, os yw annedd ar unrhyw ddiwrnod yn annedd wag hirdymor neu’n annedd a feddiennir yn gyfnodol, fod swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw wedi ei gynyddu gan ganran nad yw’n fwy na 300.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1992 p. 14. Mewnosodwyd adrannau 12A a 12B o’r Ddeddf gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

(2)

Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.