xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio, o ran Cymru, Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol (“Rheoliad 2019/1793”).

Mae rheoliad 2 yn amnewid, gyda diwygiadau, Atodiadau 1, 2 a 2a i Reoliad 2019/1793. Amnewidir Atodiad 1 drwy ddefnyddio pwerau yn Erthyglau 47(2)(b) a 54(4)(a) o Reoliad (EU) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion. Amnewidir Atodiadau 2 a 2a drwy ddefnyddio pwerau yn Erthygl 53 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd ac Erthygl 54(4)(b) o Reoliad (EU) 2017/625.

Mae Atodiad 1 yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n ddarostyngedig i gynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin neu mewn safleoedd rheoli ym Mhrydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 1 fel a ganlyn.

Mae Atodiad 2, Tabl 1, yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae amodau arbennig wedi eu rhagnodi ar eu cyfer sy’n rheoli eu mynediad i Brydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 2, Tabl 1, fel a ganlyn.

Mae Atodiad 2, Tabl 2, yn cynnwys rhestr o fwyd cyfansawdd sy’n cynnwys unrhyw fwyd a restrir yn Nhabl 1 yn Atodiad 2 oherwydd y risg o halogi gan afflatocsinau mewn swm sy’n fwy nag 20% o naill ai cynnyrch unigol neu swm y cynhyrchion hynny. Y newid a wneir i Dabl 2 yn Atodiad 2 yw ychwanegu cofnod newydd ar gyfer cymysgeddau o sbeisys.

Mae Atodiad 2a yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sydd wedi eu gwahardd rhag dod i Brydain Fawr. Mae’r cofnod yn Atodiad 2a ar gyfer bwyd sy’n cynnwys, neu fwyd sydd ar ffurf, dail betel ( Piper betle) o Fangladesh (ar gyfer Salmonela) wedi ei ddileu (ond gweler y cofnod newydd ar gyfer hyn yn Atodiad 2, Tabl 1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.