Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 996 (Cy. 232)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021

Made

6 Medi 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

8 Medi 2021

Yn dod i rym

29 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 29 Medi 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 29.9.2021, gweler rhl. 1

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020LL+C

2.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(2)(a), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.

(3Yn rheoliad 2(2), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.

(4Yn rheoliad 4(a), yn lle “1 Hydref 2021” rhodder “1 Hydref 2022”.

(5Yn rheoliad 4(b), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 29.9.2021, gweler rhl. 1

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

6 Medi 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 (“Rheoliadau 2020”).

Diwygiodd Rheoliadau 2020 Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 er mwyn caniatáu, o dan amgylchiadau penodol sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws,—

(a)panelau apêl a chanddynt ddau aelod, a

(b)i banelau apêl gynnal gwrandawiadau drwy fynediad o bell neu benderfynu apelau ar sail gwybodaeth ysgrifenedig.

Mae rheoliad 2(2) o Reoliadau 2020 yn darparu bod y diwygiadau hynny yn peidio â chael effaith ar 31 Ionawr 2021. Diwygiwyd y dyddiad hwnnw i 30 Medi 2021 gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020.

Prif effaith rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yw diwygio’r dyddiad 30 Medi 2021 yn Rheoliadau 2020 i 30 Medi 2022. Golyga hyn fod y diwygiadau a wneir gan Reoliadau 2020 yn parhau i gael effaith tan 30 Medi 2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1998 p. 31; gweler adran 142(1) am y diffiniadau o “the Assembly”, “prescribed” a “Regulations”. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 94, a mewnosodwyd is-adran (5A) yn adran 94, gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 95, a mewnosodwyd is-adran (3A) yn adran 95, gan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

O.S. 2020/479 (Cy. 110), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1606 (Cy. 333).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill