Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 933 (Cy. 213)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2021

Gwnaed

10 Awst 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

11 Awst 2021

Yn dod i rym

1 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 97(1) a (2) a 98(2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.

Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006

2.—(1Mae’r Atodlen i Reoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl is-baragraff (b) o baragraff 1, mewnosoder—

(ba)adran 48(1) i (5) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(3);.

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

3.—(1Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 14(2)—

(a)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder “neu”;

(b)hepgorer is-baragraff (iii) a’r “neu” o’i flaen.

Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013

4.—(1Mae Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y lleoedd priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

ystyr “DADYTA 2018” (“the ALNETA 2018”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(6);;

mae i “anghenion addysgol arbennig”, mewn perthynas â phlentyn y mae Pennod 1 o Ran 4 o DA 1996(7) yn parhau i fod yn gymwys iddo, yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o DA 1996;;

mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”), mewn perthynas â phlentyn y mae Rhan 2 o DADYTA 2018 yn gymwys iddo, yr ystyr a roddir gan adran 2 o DADYTA 2018;;

ystyr “plentyn sydd â chynllun datblygu unigol” (“child with an individual development plan”) yw plentyn y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal mewn perthynas ag ef o dan Ran 2 o DADYTA 2018;;

(b)yn y diffiniad o “addysg addas”, ar ôl “arbennig” mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol (yn ôl y digwydd)”.

(3Yn yr Atodlen—

(a)ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2A.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blentyn sydd â chynllun datblygu unigol a dderbyniwyd i’r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol, o ganlyniad i enwi’r ysgol yng nghynllun datblygu unigol y plentyn o dan adran 48 o DADYTA 2018.;

(b)ym mharagraff 14, ar ôl “addysgol arbennig” mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol (yn ôl y digwydd)”.

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015

5.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “ysgol arbennig”, yn lle “337(1)” rhodder “337”.

Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015

6.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3—

(a)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (2)(c)(iii);

(b)yn lle paragraff (2)(c)(iv) rhodder—

(iv)pan gymeradwywyd yr ysgol o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 1996(10) (cymeradwyo ysgolion annibynnol sy’n darparu addysg arbennig) cyn 1 Medi 2021 a’i bod yn parhau i fod wedi ei chymeradwyo yn union cyn y dyddiad hwnnw, awdurdod lleol sy’n talu’r ffioedd mewn cysylltiad â phresenoldeb disgybl cofrestredig yn yr ysgol y mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996(11) yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag ef; a

(v)pan fo gan ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gynllun datblygu unigol y mae’r ysgol wedi ei henwi ynddo o dan adran 14(6) neu 19(4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(12), yr awdurdod lleol sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol o dan yr adran 14 neu 19 honno;.

Dirymiadau canlyniadol

7.  O ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed i Ddeddf Addysg 1996(13) gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, mae’r canlynol wedi eu dirymu o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994(14);

(b)Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994(15);

(c)Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) (Diwygio) 1998(16);

(d)Rheoliadau Addysg (Offer Peryglus mewn Ysgolion) (Dileu’r Cyfyngiadau ar Ddefnydd) (Cymru) 2017(17).

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

10 Awst 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”). Mae Deddf 2018 yn diwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth. Mae rheoliad 7 yn dirymu Rheoliadau a wnaed o dan bwerau sydd wedi eu diwygio fel nad ydynt mwyach yn gymwys o ran Cymru, neu sydd wedi eu diddymu, yn ôl-weithredol, gan adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2018. Mae erthygl 8 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)) yn dwyn adrannau 57 a 58 i rym ar 1 Medi 2021, sef yr un diwrnod ag y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 2006/175 (Cy. 26). Mae paragraff 2 o’r Atodlen wedi ei ddiwygio gan O.S. 2010/1142, erthygl 2(3).

(5)

O.S. 2013/1141 (Cy. 121). Mae diwygiadau i’r Atodlen nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

1996 p. 56. Mae Pennod 1 o Ran 4 wedi ei diddymu gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Atodlen 1, paragraff 4(9). Mae diwygiadau perthnasol eraill i adran 312 yn cynnwys y rheini sydd wedi eu gwneud gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 3, Rhan 1, paragraffau 1 ac 11.

(8)

O.S. 2015/484 (Cy. 41). Mae diwygiad i reoliad 3 nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 2015/1599 (Cy. 198). Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

1996 p. 56. Mae adran 347 wedi ei diddymu gan adran 58 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2). Mae diwygiadau eraill i adran 347 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

Mae Pennod 1 o Ran 4 wedi ei diddymu gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Atodlen 1, paragraff 4(9).

(12)

2018 dccc 2. Mae diwygiad i adran 14 nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

1996 p. 56. Mae’r diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud gan adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2018.

(14)

O.S. 1994/651. Gwnaed y Rheoliadau 1994 hyn o dan bwerau a roddir gan Ddeddf Addysg 1993 (p. 35) ac ar ôl ei chydgrynhoi, maent yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan Ddeddf Addysg 1996, adrannau 328(6), 347(2) a 569(4). Diwygiwyd adran 347 gan adran 146 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) i gyfyngu ei chymhwysiad i Gymru. Cyfyngwyd ar gymhwysiad adran 328(6) i fod mewn perthynas â phlant yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 3, Rhan 1, paragraffau 1 a 10 (gan fewnosod adran 311A yn Neddf Addysg 1996).

(15)

O.S. 1994/652. Gwnaed y Rheoliadau 1994 hyn o dan bwerau a roddir gan Ddeddf Addysg 1993 ac ar ôl ei chydgrynhoi, maent yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan Ddeddf Addysg 1996, adrannau 328(6), 339(1), (5), 342(2), (4), (5), (6), a 569(4). Dirymwyd y Rheoliadau 1994 hyn o ran Lloegr gan O.S. 1999/2257, rheoliad 1(3).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill