xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CCyfrifiadau a chofnodion

Cofnodi maint y daliadLL+C

33.—(1Rhaid i feddiannydd daliad gynnal cofnod o faint cyfan y daliad wedi ei gyfrifo’n unol â rheoliad 4(3).

(2Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru’r cofnod hwn o fewn un mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 33 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storioLL+C

34.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gynnal cofnod o’r canlynol—

(a)maint y tail y bydd y nifer disgwyliedig o anifeiliaid yn ei gynhyrchu, a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 29, gan ddefnyddio’r ffigurau yn Atodlen 1;

(b)maint y gofod storio (llestri slyri a lloriau caled) y mae ei angen i’w gwneud yn bosibl cydymffurfio â rheoliad 29, gan gymryd i ystyriaeth—

(i)maint y tail y bwriedir ei allforio o’r daliad,

(ii)maint y tail y bwriedir ei daenu ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel, a

(iii)yn achos llestr i ddal slyri, maint yr hylif ac eithrio slyri sy’n debygol o fynd i mewn i’r llestr;

(c)maint cyfredol y gofod storio ar y daliad.

(2Rhaid i feddiannydd sy’n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis ar ôl dod â’r anifeiliaid yno.

(3Os yw maint y gofod storio yn newid, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r newid o fewn wythnos.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 34 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion blynyddol ynglŷn â storioLL+C

35.—(1Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeirir ato yn rheoliad 29, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.

(2Rhaid i’r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 35 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliadLL+C

36.—(1Cyn [F1y dyddiad perthnasol] bob blwyddyn rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r canlynol—

(a)nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y [F2cyfnod o 12 mis blaenorol] , a

(b)nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.

(2Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio’r Tabl yn Atodlen 1.

(3Fel arall, yn achos moch neu ddofednod a letyir yn barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—

(a)meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, neu

(b)yn achos system cadw da byw sy’n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

(4Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r cyfrifiadau a’r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.

(5Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o’r canlyniad.

[F3(6) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—

(a)

ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;

(b)

ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—

(i)

y cyfnod o 12 mis cyntaf at y dibenion hyn yw [F431 Hydref 2023 i 30 Hydref 2024], a

(ii)

wedi hynny, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar [F531 Hydref ac sy’n gorffen ar 30 Hydref] cyn y dyddiad perthnasol;

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—

(a)

ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;

(b)

ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, [F6rhodder “28 Chwefror 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 28 Chwefror].]

Tail da byw a ddygwyd i’r daliad neu a anfonwyd ohonoLL+C

37.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i’r daliad gofnodi, o fewn un wythnos—

(a)math a maint y tail da byw,

(b)y dyddiad y daethpwyd â’r tail da byw i’r daliad,

(c)maint y nitrogen sydd ynddo, a

(d)os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr.

(2Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn un wythnos—

(a)math a maint y tail da byw,

(b)y dyddiad y’i hanfonwyd o’r daliad,

(c)maint y nitrogen sydd ynddo,

(d)enw a chyfeiriad y derbynnydd, ac

(e)manylion cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.

(3Os nad yw maint y nitrogen sydd yn y tail da byw a ddygir i’r daliad yn hysbys, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.

(4Rhaid canfod maint cyfan y nitrogen sydd yn y tail da byw drwy ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 37 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Samplu a dadansoddiLL+C

38.  Rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio samplu a dadansoddi i ganfod maint y nitrogen mewn tail organig gadw’r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 38 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion o’r cnydau a heuwydLL+C

39.  Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd—

(a)y cnwd a heuir, a

(b)dyddiad ei hau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 39 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion o daenu gwrtaith nitrogenLL+C

40.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu tail organig rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

(a)y rhan y taenwyd y tail organig arni;

(b)faint o dail organig a daenwyd;

(c)y dyddiad neu’r dyddiadau;

(d)y dulliau o’i daenu;

(e)y math o dail organig;

(f)cyfanswm y nitrogen sydd ynddo;

(g)maint y nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

(a)dyddiad ei daenu, a

(b)maint y nitrogen a daenwyd.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i feddiannydd daliad mewn unrhyw flwyddyn galendr pan fo 80 % o arwynebedd amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa, ac—

(a)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifeiliaid neu o ganlyniad i daenu, yn fwy na 100 kg yr hectar,

(b)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddodir ar y daliad yn fwy na 90 kg yr hectar, ac

(c)nad yw’r meddiannydd yn dod ag unrhyw dail organig i’r daliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 40 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion dilynolLL+C

41.—(1Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i ganfod y cynnyrch hwnnw.

(2Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 41 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cadw cyngorLL+C

42.  Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau, ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn, am bum mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 42 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Dal gafael ar gofnodionLL+C

43.  Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn gadw’r cofnod hwnnw am bum mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 43 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)