Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r Rheoliadau yn disodli rheoliad 16 o’r prif Reoliadau. Mae’r rheoliad 16 newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am “mangre reoleiddiedig” gymryd y camau a ganlyn.

Cam 1 – cynnal asesiad o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre.

Cam 2 – darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Cam 3 – cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp sy’n cynnwys dim mwy na 6 o bersonau neu aelodau o’r un aelwyd ar Lefelau Rhybudd 1 a 2, neu ar Lefelau Rhybudd 3 a 4, sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd.

Cam 4 – cymryd mesurau rhesymol i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws sy’n codi pan fo personau yn ymgynnull yn agos at ei gilydd. Gall y mesurau gynnwys ceisio rhwystro personau sy’n profi symptomau COVID-19 rhag mynd i’r fangre, sicrhau bod pobl yn ymgynnull yn yr awyr agored yn hytrach na thu mewn pan fo’n ymarferol gwneud hynny, cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb, ceisio sicrhau bod y fangre wedi ei hawyru’n dda, a chynnal hylendid da. Gallant hefyd gynnwys mesurau megis peidio â chynnal gweithgareddau penodol a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bersonau yn y fangre.

Wrth benderfynu i ba raddau y mae’n rhesymol cymryd mesur penodol o dan Gam 3, caiff y person sy’n gyfrifol am y fangre rhoi sylw i fesurau a gymerir o dan Gam 4 i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws pan fo unrhyw berson o fewn 2 fetr i berson arall.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 1 i’r prif Reoliadau (sy’n nodi’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n cael effaith yng Nghymru ar hyn o bryd fel ardal Lefel Rhybudd 1) er mwyn—

  • dileu’r terfyn blaenorol o 30 ar nifer y bobl y caniateir iddynt ymgynnull i ddathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu i ddathlu bywyd person ymadawedig – bydd y niferoedd uchaf a ganiateir yn cael eu pennu yn awr yng ngoleuni’r asesiad risg a gynhelir o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau a’r camau a’r mesurau rhesymol a gymerir o dan y rheoliad hwnnw;

  • caniatáu i blant ysgol gynradd ymgynnull mewn llety gwyliau neu lety teithio (er enghraifft, er mwyn aros dros nos) pan fo’r cynulliad yn ymwneud â chynulliad rheoleiddiedig er datblygiad neu lesiant plant, megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol mewn mannau megis canolfannau addysg awyr agored, neu’n ymwneud â chynulliad y mae’r plant yn cymryd rhan ynddo at ddiben cael gafael ar addysg neu gael addysg;

  • ei gwneud yn glir nad yw’r gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau yn gymwys i berfformiad adloniant a gynhelir mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw a lle nad yw mwy na 200 o bobl yn bresennol neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (sy’n ymwneud ag ardaloedd Lefel Rhybudd 2) er mwyn gwneud yn glir effaith y gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau, gan gynnwys nad yw’n gymwys i berfformiad adloniant a gynhelir mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw a lle nad yw mwy na 200 o bobl yn bresennol neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored.

Maent hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i’r prif Reoliadau, gan gynnwys diwygio rheoliad 57 er mwyn ei gwneud yn glir nad yw digwyddiad yn peidio â chael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal “yn yr awyr agored” dim ond oherwydd bod cyfleusterau o dan do yn cael eu darparu ar gyfer bwyta bwyd ac yfed diod.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill