Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 72 (Cy. 18)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

am 3.08 p.m. ar 22 Ionawr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.30 p.m. ar 22 Ionawr 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 23 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1) .

Enwi, dod i rym a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 23 Ionawr 2021.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd” (“the Public Health Information Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020(2);

ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 23.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y CyhoeddLL+C

2.—(1Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)yn y lle priodol, mewnosoder “ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;”;

(b)yn y diffiniad o “gofyniad i ddarparu gwybodaeth” (“requirement to provide information”), yn lle “Rhan 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020” rhodder “rheoliad 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”;

(c)yn y diffiniad o “gofyniad i ynysu” (“requirement to isolate”), yn lle “Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020” rhodder “rheoliad 7 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”.

(3Yn rheoliad 3 (darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru)—

(a)yn lle paragraff (2)(a) rhodder—

(a)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith ar-lein—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn archebu,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iv)dolen i www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(v)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, ac

(vi)dolen i https://gov.wales/exemptions-self-isolation-coronavirus-covid-19-html;;

(b)yn lle paragraff (2)(b) rhodder—

(b)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn cofrestru ar gyfer taith ar-lein—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn cofrestru,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iv)dolen i www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(v)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, ac

(vi)dolen i https://gov.wales/exemptions-self-isolation-coronavirus-covid-19-html;;

(c)yn lle paragraff 2(c)(ii) rhodder—

(ii)pan ddarperir gwybodaeth yn ysgrifenedig, hysbysiad ysgrifenedig sy’n nodi—

(aa)y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,

(bb)y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ac

(cc)y gofyniad i ynysu;;

(d)ym mharagraff (2)(d), yn lle “cais” rhodder “cais ysgrifenedig”.

(4Yn rheoliad 3A (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael)—

(a)ym mharagraff (4)(a), ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—

(v)yn hysbysu P am y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;;

(b)yn lle paragraff (4)(b) rhodder—

(b)pan ddarperir yr wybodaeth drwy’r e-bost—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iv)dolen i www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(v)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, ac

(vi)dolen i https://gov.wales/exemptions-self-isolation-coronavirus-covid-19-html;.

(5Yn lle Rhan 1 o’r Atodlen (yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c)), rhodder—

RHAN 1LL+C

Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), (3)(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—

“ESSENTIAL INFORMATION TO ENTER THE UK

The United Kingdom is taking steps to help stop the spread of COVID-19.

1) All persons (including UK nationals and residents) arriving in the UK from outside the common travel area must provide proof of a negative COVID-19 test taken within 3 days of departure to the UK. For further information please visit: https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales

2) To protect your health and others’, everyone must complete an online passenger locator form before arrival in the United Kingdom.

3) All arrivals must self-isolate for 10 days unless exempt. Check the list of exempt countries immediately before travel and the list of work related exemptions if travelling for work.

4) It is a legal requirement that you wear a face covering on public transport in the UK.

5) If you self-isolate in England, you may opt in to Test to Release. For further information please visit www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel.

Failure to comply with these measures is a criminal offence and you could be fined. Please visit www.gov.uk/uk-border-control for detailed public health advice and requirements for entering the UK.”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 23.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio’r Rheoliadau Teithio RhyngwladolLL+C

3.—(1Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), hepgorer paragraffau 2(g), 3 a 5.

(3Ym mharagraff 3(1)(e) o Atodlen 1A (profion cyn cyrraedd Cymru), ar ôl “ailddechrau gweithio” mewnosoder—

,

(f)aelod o griw awyren sy’n cael ei gludo ar hediad at ddiben cyflawni dyletswyddau sydd i’w haseinio gan y gweithredwr neu’r peilot sydd â rheolaeth o’r awyren, er budd diogelwch yr awyren, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 23.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021LL+C

4.—(1Mae Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) 2021(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4 (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “prawf cymhwysol”;

(b)yn y diffiniad o “teithiwr perthnasol”, ar ôl “hysbysiad” mewnosoder “dilys o ganlyniad negyddol o brawf cymhwysol”;

(c)yn lle’r diffiniad o “hysbysiad gofynnol” rhodder—

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“required notification”) yw hysbysiad o ganlyniad prawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—

(a)

enw’r person y cymerwyd sampl y prawf ohono,

(b)

dyddiad geni neu oed y person hwnnw,

(c)

canlyniad negyddol y prawf hwnnw,

(d)

y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf ef,

(e)

enw darparwr y prawf a gwybodaeth sy’n ddigonol i gysylltu â’r darparwr hwnnw,

(f)

enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf; .

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 23.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 3.08 p.m. ar 22 Ionawr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr”) yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru (“gweithredwyr”) i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodol i deithwyr. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr fel bod yr wybodaeth benodol honno’n cynnwys gwybodaeth am y gofyniad o dan reoliad 6A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn:

(a)lleihau hynny o wybodaeth am deithiwr y mae’n ofynnol i bobl sy’n teithio i Gymru ei darparu er mwyn cydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; a

(b)ychwanegu esemptiad rhag y gofyniad i griw awyren sy’n cyflawni dyletswyddau ar fwrdd awyren er budd diogelwch yr awyren, fel llwythfeistri, feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48 (Cy. 11)) fel nad yw’n ofynnol i weithredwyr sicrhau bod hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws ar ffurf “prawf cymhwysol”, h.y. prawf sy’n bodloni’r safonau a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae’n ofynnol i weithredwyr wirio bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o brawf coronafeirws sy’n cynnwys gwybodaeth benodedig, ond y teithiwr sy’n atebol am sicrhau bod y canlyniad yn dod o brawf cymhwysol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill