Offerynnau Statudol Cymru
2021 Rhif 708 (Cy. 178)
Tai, Cymru
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) 2021
Gwnaed
15 Mehefin 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
17 Mehefin 2021
Yn dod i rym
30 Mehefin 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraffau 1(2) a 14(1) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).
(1)
2020 p. 7. Mae’r pwerau a roddir gan baragraffau 1(2) a 14(1) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn arferadwy gan y “relevant national authority”. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cenedlaethol perthnasol o ran Cymru (gweler paragraff 1(3) o Atodlen 29 i’r Ddeddf honno).
