NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliadau 3 a 14 yn diwygio’r categori presennol o bersonau esempt ar gyfer y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n ymwneud â gweithwyr cludiant ffyrdd neu weithwyr cludiant teithwyr ffyrdd, gan greu dau gategori penodol yn y broses. Mae gweithwyr cludiant ffyrdd yn ddarostyngedig i’r darpariaethau profi gweithlu newydd a gyflwynir yn rheoliadau 7 a 13 a rheolau ynysu penodol a gyflwynir yn rheoliad 8. Mae rheoliad 9 yn diwygio’r rhestr o esgusodion rhesymol i adael ynysiad yn rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yng ngoleuni’r rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 6G o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn darparu ar gyfer diwedd cyfnod ynysu pan na fo person wedi cael canlyniad prawf diwrnod 8. Mae’r cyfnod ynysu yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd y person mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf.
Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn caniatáu i weithiwr cludiant ffyrdd neu fyfyriwr sy’n mynychu ysgol fyrddio yng Nghymru gael mynediad i Gymru, pan fo’r person hwnnw wedi bod yn flaenorol mewn gwlad sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol. Mae’r personau hynny yn ddarostyngedig i ofynion ynysu penodol.
Mae rheoliadau 11 a 12 yn diwygio’r darpariaethau sy’n ymwneud â throseddau a hysbysiadau cosb benodedig yn rheoliadau 14 ac 16, yn y drefn honno, o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yng ngoleuni’r diwygiadau uchod.
Mae rheoliad 15 yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yng Nghymru. Mae rheoliad 15 yn ychwanegu Bangladesh, Kenya, Pakistan ac Ynysoedd Philippines at y rhestr.
Mae rheoliad 4 yn cynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y newidiadau a ddisgrifir uchod. Mae rheoliadau 8 a 10 hefyd yn cynnwys diwygiadau canlyniadol pellach. Mae rheoliad 5 yn cynnwys diwygiad er mwyn ymdrin â gwall drafftio yn rheoliad 6D o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
