- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2901 (Cy. 280)) (“Rheoliadau 2013”).
Mae Rheoliadau 2013 yn sicrhau bod yr hawl i gyfnodau o absenoldeb teuluol ar gael i aelodau awdurdodau lleol. Mae pum math o absenoldeb teuluol: absenoldeb mamolaeth; absenoldeb newydd-anedig; absenoldeb mabwysiadydd; absenoldeb mabwysiadu newydd ac absenoldeb rhiant.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn amnewid amrywiol reoliadau yn Rheoliadau 2013 fel a ganlyn.
Mae rheoliad 2(2) yn rhoi rheoliad 14 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n rhagnodi amodau y mae rhaid i aelod eu bodloni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer absenoldeb mabwysiadydd. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caniateir amrywio hyd absenoldeb mabwysiadydd neu’r dyddiad y mae absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.
Mae rheoliad 2(3) yn rhoi rheoliad 15 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n darparu mai cyfnod absenoldeb mabwysiadydd yw 26 o wythnosau oni bai bod yr aelod yn darparu hysbysiad ysgrifenedig i’r gwrthwyneb (o dan reoliad 14) neu’n terfynu’r cyfnod absenoldeb mabwysiadydd (o dan reoliad 17A).
Mae rheoliad 2(4) yn rhoi rheoliad 16 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch pryd y caniateir i gyfnod absenoldeb mabwysiadydd ddechrau.
Mae rheoliad 2(5) yn rhoi rheoliad 17 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n darparu, yn ddarostyngedig i reoliad 16, y caniateir i aelod o awdurdod lleol (fel y’i diffinnir yn adran 33 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011) ddewis pryd y mae ei absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.
Mae rheoliad 2(6) yn mewnosod rheoliad 17A newydd sy’n gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff aelod o awdurdod lleol derfynu ei absenoldeb mabwysiadydd yn gynharach na diwedd y cyfnod a bennir yn rheoliad 15, y rhoddwyd hysbysiad yn ei gylch o dan reoliad 14(b)(ii) neu a amrywiwyd o dan reoliad 14(d).
Mae rheoliad 2(7) yn diwygio rheoliad 38 fel ei fod yn gymwys i absenoldeb mabwysiadydd. O ganlyniad, caiff aelod o awdurdod lleol fod yn bresennol mewn cyfarfodydd a chyflawni dyletswyddau yn unol â’r rheoliad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys