- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Gwnaed
24 Chwefror 2021
Yn dod i rym
25 Chwefror 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 17(1), 23, 29 a 72 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Milheintiau (Diwygio) (Cymru) 2021.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Chwefror 2021.
2. Mae Gorchymyn Milheintiau 1989(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
3. Yn erthygl 4—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle “animals and poultry” rhodder “a relevant host”,
(ii)ar ddiwedd is-baragraff (a), hepgorer “and”,
(iii)ar ddiwedd is-baragraff (b), yn lle “.” rhodder “; and”, a
(iv)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(c)severe acute respiratory syndrome coronavirus 2 (SARS-CoV-2).”;
(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) In this article, “relevant host” means—
(a)in the case of organisms mentioned in paragraph (1)(a) and (b), any animal or poultry;
(b)in the case of the organism mentioned in paragraph (1)(c), any mammal.”
4. Yn erthygl 8—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “a designated organism” rhodder “an organism designated by article 4(1)(a) or (b)”;
(b)ym mharagraff (5)(a), yn lle “a bull, cow, steer, heiver, calf, horse, deer, sheep, goat, pig or rabbit” rhodder “cattle (including water buffalo and bison), horse, deer, sheep, goat, pig or rabbit”.
5. Ar ôl erthygl 8 mewnosoder—
8ZA.—(1) Subject to paragraphs (3) and (4) below, where the presence or former presence of the organism designated by article 4(1)(c) is identified in a sample taken from a mammal or the carcase of a mammal, by a laboratory examination or by a serological or other examination carried out elsewhere than at a laboratory, the person in charge of the laboratory, or, in the case of an examination carried out elsewhere than at a laboratory, the person carrying out such examination shall forthwith make to a veterinary officer of the Minister a written or oral report containing the particulars specified in Schedule 2 to this Order.
(2) A person who is under an obligation to make a report under paragraph (1) above shall, if so required by an officer of the appropriate Minister, supply that officer with a culture or diagnostic material of the designated organism in respect of which that obligation arose.
(3) Nothing in paragraph (1) above shall require a person to make a report where that person’s knowledge or suspicion of the presence or the former presence of a designated organism results from an identification made by or on behalf of, the appropriate Minister.
(4) For the purposes of this article, “veterinary officer of the Minister” means an officer of the Minister who is a person registered in the register of veterinary surgeons or in the supplementary veterinary register.”
6. Yn erthygl 8A—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “carcass” rhodder “carcase of an animal”;
(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) The particulars of which notice must be given are—
(a)the species of mammal in which (or in the carcase of which) the organism is, or is suspected to be or have been present;
(b)the name of the owner or keeper of the animal;
(c)the address of the premises at which the mammal or carcase is present;
(d)the name and address of the person by whom the notice is given;
(e)the date on which notice is given.
(2B) Notice given under this article must be signed by the person providing the information under paragraph (2A).”;
(c)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) For the purposes of this article, “animal” means any kind of mammal except man.”
7. Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
“2A. The name and address of the owner or keeper of the animal or carcase in which the sample of the designated organism is isolated or the previous presence of that organism is detected.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Milheintiau 1989 (O.S. 1989/285) (“y Gorchymyn”) at y dibenion a ganlyn—
(a)i ychwanegu coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) i’r rhestr o organeddau a ddynodir at ddibenion adran 29 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22) (organeddau y mae darpariaethau a benodir o’r Ddeddf honno yn gymwys iddynt). Mae dynodi SARS-CoV-2 yn gymwys mewn perthynas ag achosion lle mae’r organedd yn cael ei gario mewn mamaliaid (erthygl 3);
(b)i ychwanegu’r manylion sydd yn rhaid adrodd yn eu cylch mewn perthynas â SARS-CoV-2 (erthygl 5);
(c)i ragnodi’r manylion sydd i’w cynnwys mewn adroddiad sydd angen ei lofnodi mewn perthynas ag Echinococcus multilocularis o dan adran 8A o’r Gorchymyn (erthygl 6).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22) (fel y’u diffinnir yn adran 86(1) o’r Ddeddf honno) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044) ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 1989/285, a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/2883.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys