Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 24) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1477 (Cy. 379)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 24) 2021

Gwnaed

21 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

am 12.00 a.m. ar 22 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 11.00 a.m. ar 22 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 24) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.00 a.m. ar 22 Rhagfyr 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5, hepgorer paragraff (1A).

(3Hepgorer rheoliad 9A.

(4Yn rheoliad 10—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “, 8(2) neu 9A(2)” rhodder “neu 8(2)”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “, 8(2) a 9A(2)” rhodder “ac 8(2)”;

(c)hepgorer paragraff (6ZA).

(5O flaen rheoliad 11 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: gofynion ynysu

10B.(1) Pan—

(a)bo’n ofynnol i oedolyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r oedolyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 8(2) (y “gofyniad i ynysu”) yn union cyn 22 Rhagfyr 2021,

(b)bo’r gofyniad i ynysu yn gymwys i’r oedolyn oherwydd cymhwysiad rheoliad 10(6ZA) neu reoliad 11(1A), ac

(c)bo diwrnod olaf ynysiad yr oedolyn (fel y’i pennir yn unol â rheoliad 8(4) neu (5)) ar 22 Rhagfyr 2021 neu’n ddiweddarach,

mae’r gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i’r oedolyn ar ddechrau 22 Rhagfyr 2021.

(2) Pan—

(a)bo’n ofynnol i blentyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r plentyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 9A(2) (y “gofyniad i ynysu”) yn union cyn 22 Rhagfyr 2021, a

(b)bo diwrnod olaf ynysiad y plentyn (fel y’i pennir yn unol â rheoliad 9A(4) neu (5)) ar 22 Rhagfyr 2021 neu’n ddiweddarach,

mae’r gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i’r plentyn ar ddechrau 22 Rhagfyr 2021.

(3) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at reoliadau 9A, 10(6ZA) ac 11(1A) yn gyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 22 Rhagfyr 2021.

(6Yn rheoliad 11, hepgorer paragraff (1A).

(7Yn rheoliad 12, hepgorer “neu 9A(2)”.

(8Yn rheoliad 13(1)(a), yn lle “, 8(1) neu 9A(1)” rhodder “neu 8(1)”.

(9Hepgorer rheoliad 13A.

(10Yn rheoliad 14(2)(a)—

(a)yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “, 8(2) neu 9A(2)” rhodder “neu 8(2)”;

(b)ym mharagraff (ii), yn lle “, 8(1) neu 9A(1)” rhodder “neu 8(1)”;

(c)ym mharagraff (iii), yn lle “, 8 neu 9A” rhodder “neu 8”.

(11Yn rheoliad 30, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “, 8(2) neu 9A(2)” rhodder “neu 8(2)”.

(12Yn rheoliad 40—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “, 9A(2)”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “, 8(3) neu 9A(3)” rhodder “neu 8(3)”;

(b)ym mharagraff (2)(a), yn lle “, 8(3) neu 9A(3)” rhodder “neu 8(3)”.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

21 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Cyn iddynt gael eu diwygio gan y Rheoliadau hyn, mae rheoliadau 8 a 9A o’r prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i holl gysylltiadau agos person y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron, neu a all fod yn amrywiolyn Omicron, hunanynysu am gyfnod o 10 niwrnod. Nid yw’r esemptiadau sydd fel arfer yn gymwys i gysylltiadau agos sy’n bodloni amodau penodol (er enghraifft, cysylltiadau agos sydd wedi eu brechu) yn cael effaith.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn dileu’r gwahaniaeth rhwng cysylltiadau agos achosion y gwyddys neu yr amheuir eu bod yn Omicron, a chysylltiadau agos pob achos positif arall. Mae hyn yn golygu ni fydd rhaid i unrhyw gysylltiad agos, ni waeth pa amrywiolyn o’r coronafeirws sydd o dan sylw, hunanynysu—

  • os yw’n blentyn,

  • os yw wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y cysylltiad agos,

  • os yw’n cymryd rhan mewn treial clinigol yn y Deyrnas Unedig, neu

  • os yw’n cymryd rhan mewn cynllun profi.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu, pan fo person yn dod o fewn y categorïau hyn ond ei fod o dan ofyniad i ynysu, o ganlyniad i gael cysylltiad agos ag achos y gwyddys neu yr amheuir ei fod yn Omicron, yn union cyn dechrau’r diwrnod ar 22 Rhagfyr 2021, fod y gofyniad i ynysu’n dod i ben ar ddechrau’r diwrnod ar y dyddiad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill