- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”) a Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“Gorchymyn 2016”) mewn perthynas ag ymgynghori cyn ymgeisio ac ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio.
Mae erthygl 2 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn 2012 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio) er mwyn—
(a)amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 2(2)(a) a (3)(b));
(b)ychwanegu categori o ddatblygiad y mae rhaid ymgynghori ag Awdurdodau Tân ac Achub yn ei gylch (erthygl 2(2)(b) a (3)(a) ac (c)).
Mae erthygl 1(3) yn darparu, pan fo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno cyn 25 Ebrill 2022 a’i bod yn ofynnol i’r ceisydd fod wedi ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn unol ag erthygl 2D o Orchymyn 2021 ond nad yw wedi gwneud hynny, fod y ceisydd i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion erthyglau 2D a 2F o Orchymyn 2021 mewn cysylltiad â’r gofyniad i ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub perthnasol.
Mae erthygl 1(4) yn darparu na fydd y gofyniad i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn gymwys mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 25 Ebrill 2022.
Mae erthygl 3 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 5 i Orchymyn 2016 (dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd) er mwyn—
(a)amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 3(2)(a) a (3));
(b)ychwanegu categori o ddatblygiad y mae rhaid ymgynghori ag Awdurdodau Tân ac Achub yn ei gylch (erthygl 3(2)(b)).
Mae erthygl 1(5) yn darparu nad yw erthygl 3(2)(b) yn gymwys i:
(a)ceisiadau arfaethedig yr hysbysir Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol amdanynt yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 2016 cyn 24 Ionawr 2022;
(b)ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 cyn 24 Ionawr 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys