- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1—
(a)ym mharagraff (3), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(ba)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru;”
(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) At ddibenion y diffiniad o “athletwr elît” ym mharagraff (3)—
(a)nid yw unigolyn wedi ei ddynodi gan Gyngor Chwaraeon Cymru onid yw’r unigolyn wedi ei enwebu am ddynodiad gan gorff camp perthnasol a bod y Cyngor wedi derbyn yr enwebiad, a
(b)ystyr “corff camp perthnasol” yw corff llywodraethu cenedlaethol camp a gaiff enwebu athletwyr i gynrychioli—
(i)Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn y Gemau Olympaidd neu’r Gemau Paralympaidd, neu
(ii)Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)mae person yn cymryd rhan cynulliad os yw’r person hwnnw yn ymgynnull ag un neu ragor o bersonau eraill yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;
(b)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(2).”
(3) Yn rheoliad 4—
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “6(1)” rhodder “6(2)”;
(b)ym mharagraff (5), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(ba)o fangre ar gyfer hyfforddi athletwyr elît, gan gynnwys canolfannau sglefrio, pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, canolfannau hamdden o dan do a chyfleusterau chwaraeon eraill (boed o dan do neu yn yr awyr agored);”;
(4) Yn lle rheoliad 6 rhodder—
6.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)i berson (“P”) sy’n gyfrifol am gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1, a
(b)mewn cysylltiad ag unrhyw fangre lle y cynhelir y busnes neu lle y darperir y gwasanaeth.
(2) Rhaid i P gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac
(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).”.
(5) Yn rheoliad 6A(2), hepgorer is-baragraff (b) a’r “neu” o’i flaen.
(6) Yn rheoliad 7—
(a)ym mharagraff (2)—
(i)yn lle is-baragraff (aa) rhodder—
“(za)i weinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil,”;
(ii)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
“(aa)ar gyfer gweddïo gan—
(i)unigolyn,
(ii)aelodau o’r un aelwyd, neu
(iii)unigolyn a gofalwr yr unigolyn,
nad yw’n rhan o gydaddoli,”;
(iii)yn is-baragraff (b)(ii) hepgorer “a ganiateir gan is-baragraff (aa)”;
(iv)yn is-baragraff (c) hepgorer y geiriau ar ôl “wasanaethau cyhoeddus” hyd at y diwedd;
(b)ym mharagraff (5)(a) hepgorer y geiriau ar ôl “wasanaethau cyhoeddus” hyd at y diwedd.
(7) Yn rheoliad 7A(1), yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)rheoliad 6(2),”.
(8) Yn rheoliad 8—
(a)ym mharagraff (1)(b), ar gyfer “bod o dan do” mewnosoder “ymgynnull mewn mangre o dan do”;
(b)ym mharagraff (2)—
(i)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)cael nwyddau neu wasanaethau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1;”;
(ii)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—
“(ga)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;”;
(iii)yn is-baragraff (i) hepgorer y geiriau “, pan fo gan barti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil salwch angheuol ac na ddisgwylir iddo wella”;
(iv)ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—
“(la)pleidleisio mewn etholiad (gan gynnwys mewn etholiad a gynhelir y tu allan i Gymru), pan na fo’n rhesymol ymarferol pleidleisio drwy’r post, drwy ddirprwy neu drwy ddull tebyg arall;”;
(v)yn lle is-baragraff (q) rhodder—
“(q)symud cartref;
(qa)paratoi eiddo preswyl i bersonau symud i mewn;
(qb)ymgymryd â’r gweithgareddau a ganlyn mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl nad yw wedi ei feddiannu—
(i)ymweld ag asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr neu gartrefi arddangos;
(ii)gweld eiddo o’r fath;”;
(c)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) At ddibenion paragraff (1)(a), nid yw’n esgus rhesymol i berson adael yr ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw, nac aros i ffwrdd o’r ardal honno—
(a)i gael nwyddau neu wasanaethau oddi wrth fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 50 i 54 o Atodlen 1;
(b)i wneud unrhyw beth arall pe bai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw o fewn yr ardal.”;
(d)ar ôl paragraff (5), mewnosoder—
“(6) At ddibenion paragraff (2)(qb), caiff eiddo ei drin fel pe na bai wedi ei feddiannu os nad yw unrhyw berson yn meddiannu’r eiddo fel preswylfa.”.
(9) Yn rheoliad 8B—
(a)yn is-baragraff (c) ar ôl “angladd” mewnosoder “, priodas neu seremoni ffurfio partneriaeth sifil”;
(b)ar ôl is-baragraff (d)(i) mewnosoder—
“(ia)er mwyn i athletwyr elît hyfforddi neu gystadlu;”.
(10) Yn Atodlen 1—
(a)hepgorer paragraff 12;
(b)ym mharagraff 21, hepgorer “, cyrtiau chwaraeon”;
(c)hepgorer paragraffau 22 a 23;
(d)ar ôl paragraff 48 mewnosoder—
“49. Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.
50. Delwriaethau ceir.
51. Marchnadoedd awyr agored.
52. Siopau betio.
53. Canolfannau siopa ac arcedau siopa o dan do.
54. Unrhyw fusnes neu fangre arall sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau i’w gwerthu neu i’w llogi mewn siop.”.
O.S. 2020/353 (Cy. 80) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399 (Cy. 88)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452 (Cy. 102)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/497 (Cy. 118)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/529 (Cy. 124)) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/557 (Cy. 129)).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys