- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gwnaed
27 Ebrill 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Ebrill 2020
Yn dod i rym
5 Mai 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 67 a 68 o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 5.5.2020, gweler rhl. 1(2)
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y cyfnod blaenorol” (“the antecedent period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy’n dod i ben ar [F128 Chwefror 2021];
ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2);
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(3);
ystyr “etholiad perthnasol” (“relevant election”) yw etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;
ystyr “Rheolau 2006” (“the 2006 Rules”) yw Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006(4).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (29.1.2021) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/88), rhlau. 1(2), 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 5.5.2020, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae’r bleidlais ar gyfer etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru a fyddai, yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1972 (llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag yn achos cynghorwyr), fel arall yn cael ei chynnal, neu wedi cael ei chynnal, ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol i’w chynnal yn hytrach ar ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar [F21 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021].
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bleidlais ar gyfer ethol cynghorydd sydd wedi ei chynnal yn ystod y cyfnod blaenorol, yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1972.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “prif ardal” yr un ystyr ag a roddir i “principal area” yn adran 270 o Ddeddf 1972 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn rhl. 3(1) wedi eu hamnewid (29.1.2021) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/88), rhlau. 1(2), 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 5.5.2020, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Mae’r bleidlais ar gyfer etholiad i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag a fyddai, yn unol â rheol 5(3) o Reolau 2006 (llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag), fel arall yn cael ei chynnal, neu wedi cael ei chynnal, ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol i’w chynnal yn hytrach ar ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar [F31 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021].
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bleidlais ar gyfer ethol cynghorydd sydd wedi ei chynnal ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod blaenorol, yn unol â rheol 5(3) o Reolau 2006.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn rhl. 4(1) wedi eu hamnewid (29.1.2021) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/88), rhlau. 1(2), 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 5.5.2020, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â’r bleidlais ar gyfer etholiad perthnasol—
(a)os yw’n ofynnol i’r bleidlais gael ei chynnal ar ddiwrnod sydd o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 25 Ebrill 2020 ac sy’n dod i ben ar [F428 Chwefror 2021], ond
(b)yn unol â’r Rheoliadau hyn, nad yw’r bleidlais yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2) Nid yw adran 39 o Ddeddf 1983 (etholiadau lleol di-rym etc.) yn gymwys, a chaiff ei thrin fel pe na bai erioed wedi bod yn gymwys, mewn perthynas â’r bleidlais.
(3) Nid yw adran 63 o Ddeddf 1983 (torri dyletswydd swyddogol) yn gymwys, a chaiff ei thrin fel pe na bai erioed wedi bod yn gymwys, mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anweithred mewn cysylltiad â’r bleidlais.
(4) Wrth benderfynu at ddiben y rheoliad hwn a yw pleidlais wedi cael ei chynnal, mae pleidleisiau drwy’r post i’w hanwybyddu.
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn rhl. 5(1)(a) wedi eu hamnewid (29.1.2021) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/88), rhlau. 1(2), 2(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 5.5.2020, gweler rhl. 1(2)
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
27 Ebrill 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gohirio is-etholiadau penodol a oedd i fod i gael eu cynnal yn ystod y cyfnod rhwng 16 Mawrth 2020 a 31 Ionawr 2021.
Mae rheoliad 3 yn gohirio is-etholiadau a fyddai’n cael eu cynnal i lenwi swyddi cynghorwyr yn unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru tan ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021.
Mae rheoliad 4 yn gohirio is-etholiadau a fyddai’n cael eu cynnal i lenwi swyddi cynghorwyr cymuned yn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru tan ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhau swyddogion canlyniadau ac eraill o atebolrwydd o dan ddarpariaethau penodol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 mewn perthynas â phleidleisiau yr oedd yn ofynnol iddynt gael eu cynnal ond na chawsant eu cynnal yn y cyfnod ar ôl 24 Ebrill 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys