xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
13 Mawrth 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Mawrth 2020
Yn dod i rym
1 Hydref 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e), 26(3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac, mewn perthynas â rheoliad 2(3), (5) ac (8), gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr(3), a fewnosodir yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014(4) gan rheoliad 2(3) a (5) o’r Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad yr UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)(5) o’r Ddeddf honno.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(6).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2021.
2.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc.), ym mharagraff (2)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “ragbecynnu,” mewnosoder “neu”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “, neu” rhodder “.”;
(c)hepgorer is-baragraff (c).
(3) Ar ôl rheoliad 5, mewnosoder—
5A.—(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn y manylion sy’n ofynnol o dan y canlynol—
(a)Erthygl 9(1)(b) (rhestr cynhwysion), fel y’i darllenir gyda’r canlynol—
(i)Erthygl 13(1) i (3),
(ii)Erthygl 15,
(iii)Erthygl 16(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(b),
(iv)Erthygl 17, fel y’i darllenir gyda Rhannau A ac C o Atodiad 6 ac, yn achos cynhwysyn sy’n defnyddio dynodiad briwgig fel enw, y pwyntiau canlynol o Ran B o Atodiad 6—
(aa)pwynt 1, a
(bb)pwynt 3, fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2,
(v)Erthygl 18, fel y’i darllenir gydag Atodiad 7 a pharagraff (1)(a)(iv) o’r rheoliad hwn,
(vi)Erthygl 19(1), a
(vii)Erthygl 20;
(b)Erthygl 9(1)(c) (labelu sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau) fel y’i darllenir gydag Erthygl 21(1) ac Atodiad 2.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd—
(a)a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr ac eithrio drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell, a
(b)sydd wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.”
(4) Yn rheoliad 6 (bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. – gofyniad cyffredinol i’w henwi), ym mharagraff (2)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “ragbecynnu,” mewnosoder “neu”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “, neu” rhodder “.”;
(c)hepgorer is-baragraff (c).
(5) Ar ôl rheoliad 6, mewnosoder—
6A.—(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(a) (enw’r bwyd), fel y’i darllenir gyda’r canlynol—
(a)Erthygl 17(1) i (4),
(b)Rhan A o Atodiad 6, ac
(c)yn achos bwyd a gynigir i’w werthu gan ddefnyddio dynodiad briwgig yn enw—
(i)Erthygl 17(5),
(ii)pwynt 1 o Ran B o Atodiad 6, a
(iii)pwynt 3 o Ran B o Atodiad 6, fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd—
(a)a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr, a
(b)sydd wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.
(3) Rhaid i’r manylion ym mharagraff (1) gael eu darparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn, ac eithrio yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.”
(6) Yn rheoliad 10(1) (trosedd)—
(a)yn is-baragraff (b), hepgorer “neu”;
(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(ba)â rheoliad 5A(1)(b); neu”.
(7) Yn rheoliad 12 (cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf), ym mharagraff (1)(a)—
(a)ar ôl paragraff (ii), mewnosoder—
“(iia)rheoliad 5A(1);”;
(b)ar ôl paragraff (iii), mewnosoder—
“(iiia)rheoliad 6A(1) neu (3);”.
(8) Yn Atodlen 1 (darpariaethau y Rheoliadau hyn sy’n cynnwys cyfeiriadau newidiadwy at FIC neu Reoliad 828/2014 yn rhinwedd rheoliad 2(3)), mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—
“Rheoliad 5A(1)”;
“Rheoliad 6A(1)”.
(9) Yn Atodlen 4 (cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf), yn Rhan 1, ym mharagraff 1, yn adran 10(1A)(d) wedi ei haddasu—
(a)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—
“(ia)regulation 5A(1);”;
(b)ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder—
“(iia)regulation 6A(1) or (3);”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Mawrth 2020
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303 (Cy. 227)).
Mae rheoliad newydd 5A, sydd wedi ei fewnosod gan reoliad 2(3) o’r offeryn hwn, yn darparu bod rhaid i fwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol, pa un a ydynt yn cael eu cyflenwi i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr, gael rhestr cynhwysion, yn cynnwys gwybodaeth am alergenau, wedi ei darparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn. Mae eithriad ar gyfer deunydd pecynnu neu gynwysyddion y mae eu harwyneb mwyaf yn llai na 10cm2. Mae eithriad hefyd pan fo cynnig i werthu wedi ei wneud drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.
Mae rheoliad newydd 6A, sydd wedi ei fewnosod gan reoliad 2(5) o’r offeryn hwn, yn darparu bod rhaid i fwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol, pa un a ydynt yn cael eu cyflenwi i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr, gael enw’r bwyd wedi ei ddarparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn. Mae eithriad pan fo cynnig i werthu wedi ei wneud drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.
Mae rheoliad 2(2) a (4) yn diwygio rheoliadau 5 a 6 o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 fel nad yw’r darpariaethau hynny yn gymwys mwyach i fwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol.
Mae rheoliad 2(6), (7) a (9) yn diwygio’r darpariaethau gorfodi yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 er mwyn adlewyrchu bod rheoliadau newydd 5A a 6A wedi eu mewnosod.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau hyn ar ffurf ddrafft yn unol â Chyfarwyddeb (EU) 2015/1535 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes rheoliadau technegol a rheolau sy’n ymwneud â gwasanaethau’r Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L 241, 17.9.2015, t. 1).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu oddi ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/cy.
1990 p. 16. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Mae’r swyddogaethau hynny a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
1972 p. 68. Mae Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) wedi ei diddymu gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael (“exit day”). Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae Deddf 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau hyd ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (“IP completion day”), yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A fel 31 Rhagfyr 2020 am 11pm (yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf 1972 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) ac O.S. 2007/1388.
OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t. 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2015/2283 (OJ Rhif 327, 11.12.2015, t. 1).
O.S. 2014/2303 (Cy. 227), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/664 (Cy. 181); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 2019/1243 (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241).