xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 175 (Cy. 37) (C. 12)

Bwyd, Cymru

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2020

Gwnaed

24 Chwefror 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 28(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018(1).

Enwi

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2020.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 2 Mawrth 2020

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym ar 2 Mawrth 2020—

(a)adran 1 at bob diben sy’n weddill;

(b)adrannau 2 i 25;

(c)Atodlen 1.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Chwefror 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch yr isafbris y mae alcohol i’w gyflenwi amdano yng Nghymru gan bersonau penodol; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae erthygl 2 yn darparu mai 2 Mawrth 2020 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym holl ddarpariaethau’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod—

(a)adran 1 at bob diben sy’n weddill;

(b)adrannau 2 i 25;

(c)Atodlen 1.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n weddill nad ydynt eisoes mewn grym.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r ddarpariaeth a ganlyn o’r Ddeddf wedi ei dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn, i’r graddau sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud rheoliadau o dan yr adran honno.

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynRhif O.S.
Adran 114 Hydref 20192019/1336 (Cy. 233) (C. 45)