xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 3 wedi ei amnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(14)
7.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 11 i 13 (busnesau bwyd a diod) gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir i fwyta bwyd neu i yfed diod.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)defnyddio mangre ar gyfer—
(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu
(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;
(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);
(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;
(d)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(e)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—
(a)caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr;
(b)ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.
(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.
(5) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
8.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 14 i 17 (llety gwyliau neu lety teithio)—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—
(a)mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu
(b)mewn mangreoedd ar wahân a hunangynhwysol.
(3) Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—
(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
(d)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(4) Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—
(a)os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a
(b)os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—
(i)ceginau,
(ii)mannau cysgu,
(iii)ystafelloedd ymolchi, neu
(iv)mannau cymunedol o dan do.
(5) Yn y paragraff hwn—
(a)nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);
(b)mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.
(6) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
9.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 18 i 35—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2) O ran ei gymhwysiad i fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 27 (ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema), 28 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau), 29 (amgueddfeydd ac orielau), 32 (parciau a chanolfannau trampolîn), 33 (sbaon), 34 (lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau)) a 35 (atyniadau i ymwelwyr), nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—
(a)ardal gyhoeddus awyr agored o’r fangre, neu
(b)ardal gyhoeddus o dan do o’r fangre pan fo’n angenrheidiol i’r ardal o dan do fod ar agor—
(i)i ganiatáu mynediad i ardal gyhoeddus awyr agored,
(ii)am resymau iechyd a diogelwch, neu
(iii)i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r fangre.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer;
(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post;
(e)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(4) Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth—
(a)a restrir ym mharagraff 28 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau) agor ardaloedd o dan do ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion hwyluso gweithgaredd wedi ei drefnu er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);
(b)a restrir ym mharagraff 33 (sbaon) agor ardaloedd o dan do ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion darparu, drwy apwyntiad, wasanaethau cysylltiad agos neu wasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr.
(5) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
10.—(1) Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—
(a)caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;
(b)caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005—
(a)fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu
(b)at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.
11. Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).LL+C
12. Tafarndai.LL+C
13. Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).LL+C
14. Safleoedd gwersylla.LL+C
15. Safleoedd gwyliau.LL+C
16. Gwestai a llety gwely a brecwast.LL+C
17. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).LL+C
18. Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.LL+C
19. Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).LL+C
20. Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.LL+C
21. Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.LL+C
22. Casinos.LL+C
23. Neuaddau bingo.LL+C
24. Arcedau diddanu.LL+C
25. Alïau bowlio.LL+C
26. Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.LL+C
27. Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.LL+C
28. Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.LL+C
29. Amgueddfeydd ac orielau.LL+C
30. Rinciau sglefrio iâ.LL+C
31. Parciau a chanolfannau trampolîn.LL+C
32. Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.LL+C
33. Sbaon.LL+C
34. Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).LL+C
35. Atyniadau i ymwelwyr.]LL+C