
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Testun rhagarweiniol
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
2020 Rhif 1511 (Cy. 323)
Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
14 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
23 Chwefror 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 26(1), (2) a (5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(); adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972(), fel y’u cymhwysir gan adran 16(3) o’r Ddeddf honno(); a chan adran 34(1) i (4) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004()(), ac a freinir bellach yng Ngweinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f)(), 2(1), 3(1) i (3) a 18(5)(a) a (6) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013() ac Atodlenni 2 (paragraff 6(b)) a 3 (paragraffau 1 i 4) iddi.
Cyn gwneud y Rheoliadau hyn, ac yn unol ag adran 34(5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.
Yn unol ag adran 21(1) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.
Yn ôl i’r brig