Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1451 (Cy. 313)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020

Gwnaed

7 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

9 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 22(1), (2), 4(a) ac (c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Rhagfyr 2020.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “data gwasanaethau iechyd” (“health service data”) yw data a brosesir ar gyfer darparu neu hybu gwasanaethau o dan y Ddeddf neu mewn cysylltiad â darparu neu hybu gwasanaethau o’r fath;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n fferyllydd yn Rhan 1 neu 4 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010(2);

ystyr “IGDC” (“DHCW”) yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru;

ystyr “nyrs gofrestredig” (“registered nurse”) yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio sydd wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(3) yn rhinwedd cymhwyster sy’n gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion cofrestru yn y rhan berthnasol o’r gofrestr;

ystyr “optometrydd” (“optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr optometryddion a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989(4);

ystyr “platfformau, systemau a gwasanaethau digidol” (“digital platforms, systems and services”) yw caledwedd, meddalwedd a threfniadau eraill ar gyfer casglu, storio, prosesu, dadansoddi, defnyddio a lledaenu data gwasanaethau iechyd yn ddigidol;

ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd cofrestredig” (“registered healthcare professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru ar y gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(5);

ystyr “swyddog clinigol” (“clinical officer”) yw swyddog sy’n broffesiynolyn gofal iechyd cofrestredig; ymarferydd meddygol cofrestredig; nyrs gofrestredig; fferyllydd cofrestredig; ymarferydd deintyddol; neu optometrydd;

ystyr “ymarferydd deintyddol” (“dental practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Deintyddion 1984(6);

ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered person” yn Neddf Feddygol 1983(7) sy’n dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno.

Sefydlu IGDC

2.  Mae Awdurdod Iechyd Arbennig o’r enw Iechyd a Gofal Digidol Cymru neu Digital Health and Care Wales wedi ei sefydlu.

Swyddogaethau IGDC

3.  Mae IGDC i arfer unrhyw swyddogaethau a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru(8) mewn cysylltiad â—

(a)darparu, dylunio, rheoli, datblygu a chyflenwi platfformau, systemau a gwasanaethau digidol;

(b)casglu, dadansoddi, defnyddio a lledaenu data gwasanaethau iechyd;

(c)darparu cyngor a chanllawiau i Weinidogion Cymru ynghylch gwella platfformau, systemau a gwasanaethau digidol;

(d)cefnogi cyrff a phersonau a nodir mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru i IGDC mewn perthynas â materion sy’n berthnasol i blatfformau, systemau a gwasanaethau digidol;

(e)unrhyw fater arall er mwyn sicrhau y darperir neu yr hybir gwasanaethau o dan y Ddeddf.

Aelodaeth IGDC

4.—(1Aelodaeth IGDC yw—

(a)cadeirydd;

(b)is-gadeirydd;

(c)dim mwy na 5 aelod nad ydynt yn swyddogion IGDC yn ychwanegol at y cadeirydd a’r is-gadeirydd;

(d)dim mwy na 5 aelod sy’n swyddogion IGDC y mae rhaid iddynt gynnwys;

(i)prif swyddog;

(ii)swyddog cyllid;

(iii)swyddog clinigol;

(e)dim mwy na 3 aelod cyswllt nad ydynt yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan IGDC ac nad ydynt wedi eu cynnwys at ddibenion y cyfrifiad ym mharagraff (2).

(2Ni chaiff nifer yr aelodau sy’n swyddogion IGDC fod yn fwy na nifer yr aelodau nad ydynt yn swyddogion o’r fath.

(3Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(a),(b) ac (c) i’w hadnabod fel yr aelodau nad ydynt yn swyddogion.

(4Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(d) i’w hadnabod fel y swyddog-aelodau.

(5Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(e) i’w hadnabod fel yr aelodau cyswllt.

Cyfarfodydd cyhoeddus

5.  Mae Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960(9) i fod yn gymwys i IGDC.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”). Mae’n sefydlu Awdurdod Iechyd Arbennig newydd, sef Iechyd a Gofal Digidol Cymru (“IGDC”), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau a’i aelodaeth.

Mae erthygl 3 yn nodi natur swyddogaethau IGDC sydd i’w pennu’n fwy penodol mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 24 o’r Ddeddf. Bydd swyddogaethau IGDC yn ymwneud â darparu platfformau, systemau a gwasanaethau digidol a chefnogi gwella systemau o’r fath ac unrhyw swyddogaethau eraill a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau y darperir neu yr hybir gwasanaethau o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 4 yn nodi aelodaeth IGDC ac mae erthygl 5 yn darparu bod Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 yn gymwys i gyfarfodydd IGDC.

Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gwneud unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo swyddogion, eiddo neu atebolrwyddau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2006 p. 42. (“Deddf 2006”).

(5)

O.S. 2002/254 a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/1182.

(8)

Gweler adran 24 o Ddeddf 2006.

(9)

1960 p. 67; gweler paragraff 1(g) o’r Atodlen i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960, a fewnosodwyd gan baragraff 91 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill