Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 (O.S. 2007/871) o ran Cymru. Mae’r Rheoliadau hynny’n gosod rhwymedigaeth ar gynhyrchwyr i adennill ac ailgylchu gwastraff deunydd pacio er mwyn cyrraedd y targedau adennill ac ailgylchu a nodir yn Erthygl 6(1) o Gyfarwyddeb 94/62/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddeunydd pacio a gwastraff deunydd pacio (OJ Rhif L 365, 31.12.94, t. 10).

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi targedau ailgylchu ar gyfer cynhyrchwyr yn lle targedau adennill ac ailgylchu’r UE. Maent hefyd yn amrywio’r targedau ailgylchu ar gyfer deunyddiau penodol i gynhyrchwyr sydd o dan rwymedigaeth ar gyfer papur, plastig, gwydr, alwminiwm, dur a phren yn ogystal â’r targed aildoddi penodol ar gyfer gwydr. Mae’r dyraniad ailgylchu ar gyfer cynhyrchwyr bach ar gyfer 2018 i 2020 wedi ei newid ar gyfer 2021 a 2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a’r Economi Gylchol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.