- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
30 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
2 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
25 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, neu sy’n cael ei fwydo i anifeiliaid o’r fath(2), mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd(3), a mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(4).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau’r UE a grybwyllir yn rheoliad 2(3) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016(5) (fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn) a rheoliad 2(5) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(6) (fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau UE hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(7).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Dibenion Maethol Penodol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 25 Rhagfyr 2020.
2.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2008/38”;
(ii)yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad 2020/354” (“Regulation 2020/354”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC(9);”
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn UE a ddiffinnir ym mharagraff (1) yn gyfeiriad at yr offeryn UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”
(3) Yn lle Rhan 7 (gweithredu Cyfarwyddeb 2008/38) rhodder—
16. Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 2020/354.
17. Mae person sy’n mynd yn groes i Erthygl 1 (amodau ar farchnata), fel y’i darllenir gydag Erthygl 2 (rhanddirymiad ar gyfer bwyd anifeiliaid sy’n cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2008/38/EC) ac Erthygl 3 (darpariaethau trosiannol ar gyfer bwyd anifeiliaid a labelir cyn 25 Mawrth 2022 yn unol â’r rheolau sy’n gymwys cyn 25 Mawrth 2020), neu sy’n methu â chydymffurfio â hi, yn cyflawni trosedd.”
(4) Yn rheoliad 18 (cosbau am droseddau o dan y Rheoliadau hyn), ym mharagraff (1), yn lle “17(1)” rhodder “17”.
(5) Yn rheoliad 19 (dyletswyddau i orfodi), ar ôl “Rheoliad 767/2009” mewnosoder “, Rheoliad 2020/354”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas), yn lle paragraff (5) rhodder—
“(5) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad UE a bennir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y Rheoliad UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”
(3) Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), yn y tabl, yn y man priodol ychwaneger y cofnod a ganlyn—
“Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodedig, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC(11)”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ym maes hylendid a diogelwch bwyd anifeiliaid er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC (OJ Rhif L67, 5.3.2020, t. 1.).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/386 (Cy. 120)), gan ddileu cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2008/38/EC sydd wedi ei diddymu a darparu ar gyfer gorfodi’r Rheoliad (EU) 2020/354 newydd. Mae rheoliad 2(2)(c) yn diweddaru’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at offerynnau UE penodedig.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/387 (Cy. 121)), er mwyn ychwanegu Rheoliad (EU) 2020/354 at y rhestr o ddeddfwriaeth a ddiffinnir fel “cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig” at ddibenion y Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 3(2) yn diweddaru’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at offerynnau UE penodedig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diddymwyd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael. Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae Deddf 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau hyd ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A fel 31 Rhagfyr 2020 am 11pm (yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf 1972 yn flaenorol hefyd gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf 1972 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.
O.S. 2005/1971, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2766. Mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi. Nid yw’r dynodiad yn estyn i fesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol (gan gynnwys rheolyddion twf) na chynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid ac eithrio darpariaeth sy’n ymwneud â sylweddau gwella gallu treuliadwyedd, sefydlogyddion fflora’r perfedd, neu sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd. Mae O.S. 2005/1971 wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
O.S. 2008/1792, sydd wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
O.S. 2010/2690. Nid yw’r dynodiad yn estyn i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid ac eithrio darpariaeth sy’n ymwneud â sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd, sylweddau gwella treuliadwyedd, neu sefydlogyddion fflora’r perfedd. Mae O.S. 2010/2690 wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
O.S. 2016/386, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806.
O.S. 2016/387, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1482.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L198, 25.7.2019, t. 241).
O.S. 2016/386 (Cy. 120), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806 (Cy. 162).
OJ Rhif L67, 5.3.2020, t. 1.
O.S. 2016/387 (Cy. 121), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/40 (Cy. 12), 2018/806 (Cy. 162) a 2019/1482 (Cy. 266). .
OJ Rhif L67, 5.3.2020, t. 1.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys