xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1328 (Cy. 294)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

20 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

23 Tachwedd 2020

Yn dod i rym

18 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 19(3) a (9) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 18 Rhagfyr 2020.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “mynediad o bell” yw mynediad i gyfarfod i alluogi’r rheini nad ydynt i gyd yn bresennol gyda’i gilydd yn yr un man i fynd i’r cyfarfod a chymryd rhan ynddo ar yr un pryd drwy ddulliau electronig, gan gynnwys drwy gyswllt sain byw a chyswllt fideo byw.

Diwygio Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

3.—(1Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 57, ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu cynnal cyfarfod drwy fynediad o bell os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(a)y bydd y cyfranogwyr yn gallu cyflwyno sylwadau neu gyflawni eu swyddogaethau yn llawn (yn ôl y digwydd);

(b)bod y cyfranogwyr yn cytuno i’r cyfarfod gael ei gynnal gan ddefnyddio mynediad o bell;

(c)bod gan bob cyfranogwr fynediad at y dulliau electronig er mwyn caniatáu iddo glywed a chael ei glywed, a gweld a chael ei weld (pan ddefnyddir cyswllt fideo byw), drwy gydol y cyfarfod; a

(d)bod modd cynnal y cyfarfod yn deg ac yn dryloyw.

(3Yn rheoliad 59—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “ysgrifennu’n union cyn y nodyn sy’n cofnodi cofnodion y cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw” rhodder “ysgrifennu yng nghofnodion y cyfarfod hwnnw”;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Caniateir i’r cofnodion a’r agenda a lunnir at ddibenion y rheoliad hwn gael eu cadw ar ffurf electronig a phan fo hynny’n digwydd caniateir i’r cofnodion gael eu llofnodi’n electronig.

(4Yn rheoliad 72, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Caniateir i gyfarfodydd pwyllgor gael eu cynnal drwy fynediad o bell os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(a)y bydd y cyfranogwyr yn gallu cyflwyno sylwadau neu gyflawni eu swyddogaethau yn llawn (yn ôl y digwydd);

(b)bod y cyfranogwyr yn cytuno i’r cyfarfod gael ei gynnal gan ddefnyddio mynediad o bell;

(c)bod gan bob cyfranogwr fynediad at y dulliau electronig er mwyn caniatáu iddo glywed a chael ei glywed, a gweld a chael ei weld (pan ddefnyddir cyswllt fideo byw), drwy gydol y cyfarfod; a

(d)bod modd cynnal y cyfarfod yn deg ac yn dryloyw.

(5Yn rheoliad 73, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Caniateir i’r cofnodion a’r agenda a lunnir at ddibenion y rheoliad hwn gael eu cadw ar ffurf electronig a phan fo hynny’n digwydd caniateir i’r cofnodion gael eu llofnodi’n electronig.

(6Yn Atodlen 7—

(a)hepgorer paragraff 4 (anhwylder meddyliol);

(b)ym mharagraff 7(b), yn lle “gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989” rhodder “gorchymyn anghymhwyso o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(4)”.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

20 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1132 (Cy. 111)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu y caniateir cynnal cyfarfodydd cyrff llywodraethu a phwyllgorau cyrff llywodraethu drwy fynediad o bell os yw’r amodau angenrheidiol wedi eu bodloni.

Maent yn dileu’r gofyniad i’r clerc, neu berson sy’n gweithredu fel clerc i gorff llywodraethu neu bwyllgor corff llywodraethu, gofnodi cofnodion y trafodion mewn llyfr neu ar dudalennau a gedwir at y diben hwnnw.

Maent hefyd yn dileu’r gofyniad i’r clerc gofnodi enwau’r aelodau ac unrhyw berson arall sy’n bresennol yn y cyfarfod o dan sylw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw.

Mae’r Rheoliadau hyn yn galluogi cyrff llywodraethu a phwyllgorau i gadw’r cofnodion a’r agenda ar ffurf electronig ac i’r cofnodion gael eu llofnodi’n electronig.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r ddarpariaeth sy’n anghymhwyso person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr pan fo’n agored i gael ei gadw’n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p. 32. Mewnosodwyd adran 19(9) gan adran 19(2)(b) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7). Diwygiwyd adran 210(7) gan adran 21(3) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Gweler adran 212(1) am y diffiniad o “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

O.S. 2014/1132 (Cy. 111), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.