xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
28 Hydref 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2020.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020—
(a)adran 5;
(b)adran 15;
(c)adran 37;
(d)adran 39;
(e)adrannau 45 a 46;
(f)adran 67;
(g)adran 74;
(h)adran 82.
3.—(1) Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020 ond at ddibenion gwneud rheoliadau—
(a)adran 16;
(b)adran 21;
(c)adran 32;
(d)adran 36;
(e)adran 54;
(f)adran 56;
(g)adran 60;
(h)adran 65;
(i)adrannau 75 i 77;
(j)adran 83;
(k)adran 85;
(l)adrannau 91(2) a 92;
(m)adran 95;
(n)adran 96 a pharagraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) o’r Atodlen.
(2) Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020 ond at ddibenion dyroddi neu adolygu’r cod o dan adran 4 o’r Ddeddf—
(a)adran 4(3);
(b)adrannau 7 ac 8;
(c)adran 47.
4.—(1) Daw adrannau 61 a 62 o’r Ddeddf i rym ar 4 Ionawr 2021.
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 4 Ionawr 2021 at bob diben sy’n weddill—
(a)adran 56(1);
(b)adran 56(4) i (6);
(c)adran 60.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
28 Hydref 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r darpariaethau a restrir yn erthygl 2 yn dod i rym yn llawn ar 2 Tachwedd 2020. Mae’r darpariaethau hyn yn cynnwys pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth, darpariaethau dehongli a darpariaethau sydd fel arall yn gysylltiedig â’r pwerau hynny i wneud is-ddeddfwriaeth.
Mae’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 hefyd yn dod i rym ar y dyddiad hwnnw, ond dim ond at ddibenion gwneud rheoliadau, neu ddyroddi neu adolygu’r cod o dan adran 4 o’r Ddeddf.
Mae erthygl 4 yn dwyn i rym ar 4 Ionawr 2021 ddarpariaethau yn y Ddeddf sy’n gysylltiedig â dynodi swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n dwyn i rym hefyd, at bob diben sy’n weddill, ddarpariaethau sy’n gysylltiedig â’r rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr, y caiff awdurdod lleol sicrhau addysg neu hyfforddiant ynddynt ar gyfer plentyn neu berson ifanc.
Mae diwygiadau i adran 91 nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Mae diwygiadau i adran 4 a wnaed gan Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12), Atodlen 19, paragraff 226.