Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 5) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1048 (Cy. 234) (C. 30)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 5) 2020

Gwnaed

25 Medi 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 5) 2020.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Medi 2020

2.—(1Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau, ar 29 Medi 2020—

(a)adran 6 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg);

(b)adran 10 (tir ysgolion);

(c)adran 11 (tir ysbytai);

(d)adran 17 (arwyddion: mangreoedd di-fwg);

(e)adran 18 (awdurdodau gorfodi);

(f)adran 27 (hysbysiadau cosb benodedig) i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1;

(g)adran 28 (dehongli’r Bennod hon); ac

(h)Atodlen 1 (cosbau penodedig).

(2Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2020—

(a)adran 15 (cerbydau di-fwg); a

(b)adran 16 (mangreoedd di-fwg: esemptiadau).

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

25 Medi 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2(1) yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn ym Mhennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf (ysmygu) ar 29 Medi 2020, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben galluogi i reoliadau gael eu gwneud o dan y darpariaethau hynny—

  • dran 6 sy’n ymwneud â’r drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg;

  • adran 10 sy’n ymwneud â thir ysgolion;

  • adran 11 sy’n ymwneud â thir ysbytai;

  • adran 17 sy’n ymwneud ag arwyddion: mangreoedd di-fwg;

  • adran 18 sy’n ymwneud ag awdurdodau gorfodi;

  • adran 27 sy’n ymwneud â hysbysiadau cosb benodedig;

  • adran 28 sy’n ymwneud â dehongli Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf; ac

  • Atodlen 1 sy’n ymwneud â chosbau penodedig.

Mae erthygl 2(2) yn dwyn i rym adran 15 (cerbydau di-fwg) ac adran 16 (mangreoedd di-fwg: esemptiadau) o’r Ddeddf ar 29 Medi 2020.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
(1)

Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn.

(2)

Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn.

Adran 24 Hydref 2017

2017/949

(Cy. 237)

(C. 85)

Adran 34 Hydref 2017

2017/949

(Cy. 237)

(C. 85)

Adran 941 Chwefror 2018

2018/1

(Cy. 1)(1)

Rhan 51 Chwefror 2018

2018/1

(Cy. 1)

Rhan 71 Ebrill 2019

2019/829

(Cy. 152)(2)

Rhan 831 Mai 2018

2018/605

(Cy. 116)

(C. 48)

Adran 1194 Hydref 2017

2017/949

(Cy. 237)

(C. 85)

Atodlen 431 Mai 2018

2018/605

(Cy. 116)

(C. 48)

Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill