xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 794 (Cy. 148)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019

Gwnaed

3 Ebrill 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 97(1) a (2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 98 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2019 yn ddarostyngedig i baragraff (3).

(3Daw rheoliad 3 i rym ar y diwrnod y daw adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i rym.

Diwygiadau i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

2.—(1Mae adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (3) hepgorer “gyda chytundeb yr Arglwydd Brif Ustus”.

(3Yn is-adran (4) hepgorer “gyda chytundeb y Llywydd”.

Diwygiadau i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005

3.—(1Yn Rhan 3 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005, mae Tabl 1 (penodiadau gan yr Arglwydd Ganghellor) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle’r cofnod sy’n ymwneud ag adran 332(2) o Ddeddf Addysg 1996 a’r swyddi y mae’r adran honno yn ymwneud â hwy, rhodder —

President of the Education Tribunal for Wales

Member of the legal chair panel of the Education Tribunal for Wales

Section 91(3) and (4) of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

3 Ebrill 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”) yn sefydlu’r system statudol yng Nghymru ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc. Mae Rhan 3 o Ddeddf 2018 yn parhau â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ac yn ei ailenwi’n Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i adran 91 o Ddeddf 2018 sy’n darparu ar gyfer cyfansoddiad y Tribiwnlys Addysg, gan gynnwys penodi Llywydd y Tribiwnlys ac aelodau eraill y Tribiwnlys Addysg.

Mae rheoliad 2(2) yn dileu o adran 91(3) o Ddeddf 2018 y gofyniad i gael cytundeb yr Arglwydd Brif Ustus i’r Arglwydd Ganghellor benodi Llywydd y Tribiwnlys Addysg.

Mae rheoliad 2(3) yn dileu o adran 91(4) o Ddeddf 2018 y gofyniad i gael cytundeb Llywydd y Tribiwnlys i’r Arglwydd Ganghellor benodi’r panel cadeirydd cyfreithiol.

Mae rheoliad 3 yn rhoi yn lle’r cofnod yn Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 sy’n ymwneud â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru gofnod sy’n ymwneud â’r Tribiwnlys Addysg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yng ngoleuni’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.