- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gwnaed
4 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Mawrth 2019
Yn dod i rym
1 Ebrill 2019
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3, ar y diwedd mewnosoder—
| “Class X: | (1) a dwelling in Wales (a) which is occupied by one or more care leavers; and (b) where every resident is either a care leaver, a relevant person, or a severely mentally impaired person. (2) For the purposes of paragraph (1)— (a) “care leaver” means a person who is— (i) aged 24 or under; and (ii) a category 3 young person as defined by section 104 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014(4); (b) “relevant person” has the meaning given by paragraph 2(a) of Class N; and (c) “severely mentally impaired” has the meaning given in paragraph 2 of Schedule 1 to the Act;” |
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 (O.S. 1992/558) (“Gorchymyn 1992”).
Nid yw’r dreth gyngor yn daladwy mewn perthynas ag anheddau esempt (adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14)). Mae dosbarthau o anheddau esempt wedi eu rhagnodi yng Ngorchymyn 1992.
Mae’r Gorchymyn hwn yn mewnosod Dosbarth X newydd yng Ngorchymyn 1992. Mae hyn yn esemptio anheddau yng Nghymru—
sydd wedi eu meddiannu gan un neu ragor o bobl sy’n ymadael â gofal, a
lle y mae pob preswyliwr naill ai’n berson sy’n ymadael â gofal, neu’n berson perthnasol o fewn y diffiniad yn Nosbarth N o Orchymyn 1992 (myfyrwyr etc.), neu’n berson sydd â nam meddyliol difrifol.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diffinio’r term “care leaver” gan gyfeirio at berson ifanc categori 3, fel y’i diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 1992/558; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2941, 1993/150, 1994/539, 1995/619, 1997/74, 1997/656, 1998/291, 1999/536, 2000/1025 (Cy. 61), 2004/2921 (Cy. 260) a 2005/3302 (Cy. 256).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys