xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Gwnaed
20 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Chwefror 2019
Yn dod i rym
22 Mawrth 2019
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Mawrth 2019.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru, parth Cymru, a chychod pysgota Cymru ym mha le bynnag y bônt.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cosb” (“penalty”) yw’r swm a bennir mewn hysbysiad cosb;
ystyr “hysbysiad cosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad sy’n cynnig y cyfle, drwy dalu swm penodedig yn unol â’r Gorchymyn hwn, i ymryddhau o fod yn agored i gollfarn am y drosedd cosb y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi;
ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog gorfodi morol o fewn ystyr adran 235(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;
ystyr “trosedd cosb” (“penalty offence”) yw trosedd (heblaw trosedd sy’n ymwneud ag ymosod, rhwystro neu fethu cydymffurfio â gofyniad a osodwyd gan berson) a restrir yn yr Atodlen.
3.—(1) Pan fo gan swyddog reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd cosb, caiff y swyddog ddyroddi hysbysiad cosb i’r person hwnnw am swm heb fod yn fwy na £10,000.
(2) Wrth benderfynu ar y gosb, rhaid i swyddog roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru ynghylch materion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniad o’r fath.
(3) Mae hysbysiad cosb wedi ei ddyroddi ar yr adeg yr anfonir ef drwy’r post neu y traddodir ef â llaw i’r person y mae’n ymwneud ag ef.
4.—(1) Rhaid i hysbysiad cosb a ddyroddir o dan erthygl 3—
(a)rhoi manylion y drosedd cosb;
(b)datgan swm y gosb;
(c)datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd erthygl 5, na chychwynnir achos ynglŷn â’r drosedd;
(d)datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu’r gosb; ac
(e)datgan bod rhaid peidio â thalu ag arian parod.
5.—(1) Pan fo hysbysiad cosb wedi ei roi i berson—
(a)ni chaniateir dwyn achos yn erbyn y person hwnnw am y drosedd cosb y mae’r hysbysiad hwnnw’n ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod o 28 niwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad; a
(b)ni chaniateir collfarnu’r person hwnnw am y drosedd os telir y gosb cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(2) O ran paragraff (1)—
(a)mae’n ddarostyngedig i erthygl 10; a
(b)nid yw’n gymwys os tynnir yr hysbysiad cosb yn ôl yn unol ag erthygl 9.
6.—(1) Rhaid talu cosb i’r person a bennir yn yr hysbysiad cosb drwy ei hanfon drwy’r post neu drwy unrhyw ddull a bennir yn yr hysbysiad cosb.
(2) Ni chaniateir ei thalu ag arian parod.
7.—(1) Pan fo person (“A”) yn talu’r gosb yn unol ag erthygl 6, rhaid i swyddog roi hysbysiad (“hysbysiad taliad tybiedig”)(“notice of deemed payment”)) i bob person arall y dyroddwyd hysbysiad cosb gysylltiedig iddo.
(2) Mae hysbysiad cosb yn “hysbysiad cosb cysylltiedig” (“connected penalty notice”) os yw’r drosedd cosb y mae’r hysbysiad hwnnw’n ymwneud â hi yr un fath â’r drosedd cosb y mae’r hysbysiad cosb a ddyroddwyd i A ac a dalwyd ganddo yn ymwneud ag ef, ac yn codi o’r un set o amgylchiadau â hi.
(3) Rhaid i hysbysiad taliad tybiedig—
(a)cael ei anfon drwy’r post neu ei draddodi â llaw;
(b)dangos bod A wedi talu’r gosb am hysbysiad cosb cysylltiedig A;
(c)dangos y trinnir yr hysbysiad cosb a ddyroddwyd i dderbynnydd yr hysbysiad taliad tybiedig fel pe bai wedi ei dalu oni bai bod y person hwnnw’n rhoi hysbysiad ysgrifenedig yn dangos na ddylai gael ei drin felly (“hysbysiad gwrthwynebu” (“notice of objection”)); a
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y mae’n rhaid rhoi unrhyw hysbysiad gwrthwynebu iddo.
(4) Rhaid i hysbysiad gwrthwynebu gael ei anfon drwy’r post neu ei draddodi â llaw i’r person a ddatgenir ym mharagraff (3)(d) o fewn—
(a)28 niwrnod yn dechrau â’r dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad cosb; neu
(b)os yw’n hwyrach, 5 niwrnod yn dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad taliad tybiedig.
(5) Os na roddir hysbysiad gwrthwynebu yn unol â’r erthygl hon, mae’r hysbysiad cosb a ddyroddwyd i berson y rhoddwyd hysbysiad taliad tybiedig iddo i’w drin fel pe bai wedi ei dalu.
8. Mewn unrhyw achos mae tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan ac sy’n dweud bod taliad ar gyfer hysbysiad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law ar neu cyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
9.—(1) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl gan swyddog y mae ganddo reswm dros gredu na ddylai fod wedi ei ddyroddi (ynteu i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb neu fel arall).
(2) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl cyn i’r gosb gael ei thalu neu ar ôl i’r gosb gael ei thalu.
(3) Os tynnir hysbysiad cosb yn ôl rhaid i unrhyw gosb a dalwyd gael ei had-dalu.
10.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys o ran hysbysiad cosb a ddyroddir i feistr, perchennog neu siartrwr cwch pysgota heblaw cwch pysgota o’r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr.
(2) Pan fo person sydd wedi cael hysbysiad cosb wedi talu’r gosb, caiff y person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig yn gofyn i achos gael ei ddwyn ynglŷn â’r drosedd cosb y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi.
(3) Rhaid i’r hysbysiad hwn—
(a)nodi bod y person sy’n rhoi’r hysbysiad yn dymuno i achos gael ei ddwyn ynglŷn â’r drosedd cosb y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi; a
(b)cael ei roi heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 28 niwrnod yn dechrau â’r dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad cosb.
(4) Pan fo hysbysiad o’r fath wedi ei roi gan berson, caniateir i achos gael ei ddwyn yn erbyn y person hwnnw.
(5) Pan roddir y gorau i achos o’r fath neu pan ryddfernir y person o’r drosedd, mae’r hysbysiad cosb i’w drin fel pe bai heb gael ei ddyroddi erioed a rhaid i unrhyw gosb a dalwyd gael ei had-dalu.
(6) Pan gollfernir person o’r drosedd, mae’r hysbysiad cosb i’w drin fel pe bai heb gael ei ddyroddi erioed ac mae paragraff (7) neu (8) yn gymwys fel y bo’n briodol.
(7) Os gosodir dirwy ar y person ynglŷn â’r drosedd cosb, rhaid i swyddog—
(a)gymhwyso hynny o’r gosb nad yw’n fwy na swm y ddirwy i dalu’r ddirwy neu tuag at dalu’r ddirwy; a
(b)ad-dalu hynny o’r gosb sy’n fwy na swm y ddirwy.
(8) Os na osodir dirwy ar y person ynglŷn â’r drosedd cosb, rhaid i unrhyw gosb a dalwyd gael ei had-dalu.
11.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys—
(a)pan fo hysbysiad cosb wedi ei ddyroddi i berson o dan Orchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau’r Gymuned) (Hysbysiadau Cosb) 2008(4); a
(b)pan nad yw’r gosb wedi ei thalu yn unol ag erthygl 6, ac nad yw’r hysbysiad cosb wedi ei dynnu’n ôl o dan erthygl 9 o’r Gorchymyn hwnnw.
(2) Bernir bod yr hysbysiad cosb wedi ei ddyroddi o dan y Gorchymyn hwn.
12. Dirymir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau’r Gymuned) (Hysbysiadau Cosb) 2008.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2019
Erthygl 2
1. Yn Neddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967(5), trosedd o dan—
(a)adran 3 (effaith rhoi hawl i reoleiddio pysgodfa);
(b)adran 7 (amddiffyn pysgodfeydd);
(c)adran 14 (darpariaethau atodol o ran gorchmynion o dan adrannau 12 a 13);
(d)adran 16 (peidio â gwerthu wystrys rhwng dyddiadau penodol);
(e)adran 17 (gwahardd cymryd a gwerthu crancod a chimychiaid penodol).
2. Yn Neddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(6), trosedd o dan—
(a)adran 1 (cyfyngiadau maint, etc i bysgod);
(b)adran 2 (cyfyngiadau maint i bysgod i’w defnyddio yng nghwrs unrhyw fusnes);
(c)adran 3 (rheoleiddio rhwydi ac offer pysgota arall);
(d)adran 4 (trwyddedu cychod pysgota);
(e)adran 4A (trwyddedu llestri sy’n derbyn pysgod wedi’u trawslwytho);
(f)adran 5 (pŵer i gyfyngu pysgota am bysgod môr);
(g)adran 6 (gwahardd glanio pysgod môr a ddaliwyd mewn mannau penodol);
(h)adran 8 (rheoleiddio glanio pysgod môr wedi’u dal gan gychod tramor).
3. Trosedd o dan adran 5 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968(7) (rheoleiddio cynnal gweithrediadau pysgota).
4. Trosedd o dan adran 2 o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976(8) (mynediad i bysgodfeydd Prydain).
5. Trosedd o dan adran 30 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(9) (gorfodi rheolau’r Gymuned).
6. Trosedd o dan adran 190 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(10) (troseddau).
7. Trosedd o dan reoliadau 3 i 11 o Reoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006(11).
8. Trosedd o dan erthygl 9 o Orchymyn Pysgota Môr (Pysgota Anghyfreithlon, Heb Roi Gwybod Amdano a Heb ei Reoleiddio) 2009(12).
9. Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at adran yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan yr adran honno.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn creu cynllun ar gyfer dyroddi a thalu hysbysiadau cosb ynglŷn â throseddau penodol yn ymwneud â physgota môr. Mae’n dirymu Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau’r Gymuned) (Hysbysiadau Cosb) 2008 gan ddisodli hwnnw â chynllun sy’n gymwys i droseddau a grëir o dan ddeddfwriaeth ddomestig yn ogystal â’r rhai sy’n codi o ganlyniad i dorri cyfyngiad cymunedol gorfodadwy neu rwymedigaeth arall.
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer dyroddi hysbysiad cosb (erthygl 3), cynnwys hysbysiad o’r fath (erthygl 4), ac effaith a dull talu cosb (erthyglau 5 a 6). Mae’n gwneud darpariaeth hefyd ynglŷn â dyroddi hysbysiadau cosb i bersonau gwahanol am yr un drosedd sy’n codi o’r un set o amgylchiadau lle trinnir taliad gan un person fel pe bai’n daliad gan berson arall, os nad yw’r llall yn gwrthwynebu (erthygl 7). Darperir hefyd ar gyfer tynnu hysbysiad cosb yn ôl (erthygl 9).
Caiff meistr, perchennog neu siartrwr cwch pysgota sydd o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi talu cosb wneud cais am gael ei roi ar brawf am y drosedd (erthygl 10), ac os felly trinnir yr hysbysiad cosb fel pe na bai wedi ei ddyroddi erioed ac ad-delir y gosb os ceir rhyddfarniad neu os rhoddir y gorau i’r achos llys perthynol. Os ceir collfarniad, trinnir yr hysbysiad cosb fel pe bai heb ei ddyroddi erioed hefyd, ond mae’n rhaid i’r gosb gael ei gosod tuag at dalu unrhyw ddirwy a roddir.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1981 p. 29 (“Deddf 1981”); mewnosodwyd adran 30(2ZA) gan adran 293(3) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23). Gweler adran 30(3) i gael y diffiniad o “the Ministers”.
Cafodd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adran 30 o Ddeddf 1981, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’u trosglwyddo wedyn o’r corff hwnnw i Weinidogion Cymru: gweler erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Cafodd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adran 30 o Ddeddf 1981, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran parth Cymru, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan erthygl 4(1)(e) o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760). Cafodd y swyddogaethau hynny eu trosglwyddo ymhellach, ar sail gydredol, o ran cychod pysgota Cymru y tu hwnt i derfyn parth Cymru tua’r môr gan adran 59A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 2(1) o Atodlen 3A iddi.
1967 p. 83; diwygiwyd adran 3 gan adrannau 204, 206 a 207 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, adran 72 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3) ac O.S. 2015/664. Diwygiwyd adran 7 gan adrannau 210 a 211 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, adran 2 o Ddeddf Gwerthu Nwyddau (Diwygio) 1994 (p. 32), ac O.S. 2015/664. Diwygiwyd adran 14 gan adrannau 35, 37, 38 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48), Atodlen 8 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33), ac adran 6 o Ddeddf Clefydau Pysgod 1983 (p. 30). Diwygiwyd adran 16 gan adrannau 35, 37, 38 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982, Atodlen 8 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 ac adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1973 (p. 30). Diwygiwyd adran 17 gan adrannau 212 a 213 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, adrannau 35, 37, 38 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982, ac Atodlen 8 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.
1967 p. 84; amnewidiwyd adran 1 gan adran 19 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29) a’i diwygio gan adran 314 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21) a pharagraff 38 o Atodlen 13 iddi, adran 194 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, O.S. 1999/1820 ac O.S. 2010/760. Diwygiwyd adran 2 gan adran 19 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ac O.S. 1999/1820. Diwygiwyd adran 3 gan adran 195 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, paragraff 7 o Atodlen 14 iddi, paragraff 2 o Atodlen 15 a Rhan 4 o Atodlen 22 iddi, Atodlen 2 i Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p. 83) ac O.S. 1999/1820. Amnewidiwyd adran 4 gan adran 3 o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 a’i diwygio gan adran 20 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adran 1 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1992 (p. 60), adrannau 4, 196 a 197 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 ac O.S. 1999/1820. Mewnosodwyd adran 4A gan adran 21 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 a’i diwygio gan adran 3 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1992, adran 6 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 ac O.S. 1999/1820. Diwygiwyd adran 5 gan adran 22 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adran 198 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a pharagraff 3 o Atodlen 15 iddi, paragraff 38 o Atodlen 13 i Ddeddf Llongau Masnach 1995, O.S. 1999/1820 ac O.S. 2010/760. Diwygiwyd adran 6 gan adran 23 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ac O.S. 1999/1820. Diwygiwyd adran 8 gan O.S. 1999/1820.
1968 p.77; diwygiwyd adran 5 gan adran 4 o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976, a pharagraff 3 o Atodlen 1 a pharagraff 17 o Atodlen 2 iddi, adran 24 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ac O.S. 1999/1820.
Diwygiwyd adran 2 gan O.S. 1999/1820 ac O.S. 2015/664.
Diwygiwyd adran 30 gan adran 293 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, O.S. 2011/1043 ac O.S. 1999/1820.
Diwygiwyd adran 190 gan O.S. 2015/664.