Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 220 (Cy. 50)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2019

Gwnaed

11 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1(1), 2 ac 8 o Atodlen 4 iddi(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992

2.—(1Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(3) (“Rheoliadau 1992”) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 47(1) (traddodi i garchar), ar ôl “a billing authority” mewnosoder “in England”.

(3Yn rheoliad 54 (atebolrwydd cyd ac unigol: gorfodi), yn lle paragraff (7) rhodder—

(7) Where the Schedule 12 procedure has been used against two or more joint taxpayers in respect of an amount, a billing authority in England may, subject to paragraph (8), apply for a warrant of commitment at any time against one of them or different warrants may be applied for against more than one of them: but no such application may be made in respect of any of them who has not attained the age of 18 years.

Darpariaeth drosiannol

3.—(1Nid yw’r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2 yn gymwys mewn achos pan fo awdurdod bilio yng Nghymru, cyn 1 Ebrill 2019, wedi gwneud cais i lys ynadon o dan reoliad 47 o Reoliadau 1992 am ddyroddi gwarant i draddodi’r dyledwr i garchar.

(2Ond mewn achos o’r fath, ni chaiff awdurdod bilio yng Nghymru adnewyddu cais o dan reoliad 48(3) o Reoliadau 1992 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

11 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (O.S. 1992/613) (“Rheoliadau 1992”).

Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 1992 i ddileu pŵer awdurdodau bilio yng Nghymru i wneud cais i lys ynadon am ddyroddi gwarant i draddodi dyledwr treth gyngor i garchar.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Mae unrhyw achosion pan fo awdurdod bilio yng Nghymru wedi gwneud cais am warant i draddodi cyn 1 Ebrill 2019 yn parhau i gael eu trin o dan y cynllun a oedd yn gymwys cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym. Fodd bynnag, ni chaiff awdurdodau bilio yng Nghymru ddefnyddio’r pŵer yn rheoliad 48(3) o Reoliadau 1992 i adnewyddu cais ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1992 p. 14. Diwygiwyd adran 113 gan baragraffau 40, 52(1) a (2) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) ac adran 80(1), (4) a (5) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Diwygiwyd paragraffau 1 ac 8 o Atodlen 4 gan baragraff 107 o Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

O.S. 1992/613, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/3008, 1993/773, 1994/505, 2013/630 a 2014/600.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill