Enwi, cychwyn a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1);
ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw ardal a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu mewn perthynas ag ef;
ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”) yw’r canlyniadau y mae’r unigolyn sy’n cael y gofal a’r cymorth yn dymuno eu cyflawni mewn bywyd o ddydd i ddydd;
ystyr “comisiynydd y gwasanaeth” (“service commissioner”) yw’r awdurdod lleol neu’r corff GIG sy’n gyfrifol am wneud trefniadau â’r darparwr gwasanaeth er mwyn i ofal a chymorth gael eu darparu i unigolyn;
mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(2);
ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun o dan adran 54 o Ddeddf 2014(3);
ystyr “cynllun personol” (“personal plan”) yw’r cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio yn unol â rheoliad 13(1);
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol, neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn sy’n cael y gofal a’r cymorth i weithredu ar ran yr unigolyn;
ystyr “cytundeb lleoli unigolyn” (“individual placement agreement”) yw cytundeb rhwng darparwr gwasanaeth, gofalwr lleoli oedolion ac unigolyn i ofalwr lleoli oedolion ddarparu llety a gofal a chymorth i’r unigolyn hwnnw;
ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw person sy’n cynnal gwasanaeth lleoli oedolion(4);
ystyr “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”) yw’r datganiad o ddiben ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth wedi ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef(5);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “gofalwr lleoli oedolion” (“adult placement carer”) yw person sydd wedi ymrwymo i gytundeb gofalwr(6) â darparwr gwasanaeth;
ystyr “y gwasanaeth” (“the service”), mewn perthynas â gwasanaeth lleoli oedolion, yw’r gwasanaeth a ddarperir mewn perthynas ag ardal benodedig;
ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(7);
mae i “gweithiwr” yr un ystyron â “worker” yn adran 230(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(8) yn gymwys iddo;
ystyr “y rheoleiddiwr gwasanaethau” (“the service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol(9);
ystyr “rheoleiddiwr y gweithlu” (“the workforce regulator”) yw GCC(10);
mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—
personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a
personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,
ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr neu ofalwyr lleoli oedolion;
ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 1;
ystyr “yr unigolyn” (“the individual”), oni bai bod y cyd-destun yn nodi fel arall, yw’r oedolyn sy’n cael gofal a chymorth.
Diffinnir “Deddf 2014” yn adran 189 o’r Ddeddf fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).
Diffinnir “gwasanaeth lleoli oedolion” ym mharagraff 6(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf fel “gwasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) gan awdurdod lleol neu berson arall at ddibenion lleoli oedolion gydag unigolyn yng Nghymru o dan gytundeb gofalwr (ac mae’n cynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a goruchwylio unigolion o’r fath)”.
Mae rheoliad 3 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1098 (Cy. 278)) yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dymuno darparu gwasanaethau lleoli oedolion ddarparu datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu ohono.
Diffinnir “cytundeb gofalwr” ym mharagraff 6(2) o Atodlen 1 i’r Ddeddf fel “cytundeb ar gyfer darparu gan unigolyn lety yng nghartref yr unigolyn ynghyd â gofal a chymorth ar gyfer hyd at dri oedolyn”.
Diffinnir “swyddogaethau rheoleiddiol” yn adran 3(1)(b) o’r Ddeddf.
Gweler adran 67(3) o’r Ddeddf am y diffiniad o Ofal Cymdeithasol Cymeu fel “GCC”.