Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1332 (Cy. 230)

Pysgodfeydd Môr, Cymru

Cadwraeth Pysgod Môr

Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gwnaed

9 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Hydref 2019

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (3), a 5(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1),

ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)(3).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion Deddf 1972 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin(4).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriad at offeryn yr UE yn rheoliad 3 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2019.

Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003

2.  Yng Ngorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003(5), yn erthygl 2, yn lle’r diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” rhodder—

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol;.

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010

3.  Yng Ngorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010(6), yn lle erthygl 11(2) rhodder—

(2) At ddibenion paragraff (1), mae maint cragen fylchog i’w fesur yn unol â pharagraff 6 o Atodiad 4 i Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019

4.  Yng Ngorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019(7), yn lle erthygl 6 rhodder—

6.  At ddibenion erthyglau 3, 4 a 5, mae maint cragen foch i’w fesur yn unol â pharagraff 6 o Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

9 Hydref 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i is-ddeddfwriaeth ym maes pysgodfeydd môr sy’n ymwneud â Chymru a pharth Cymru.

Mae’r diwygiadau’n rhoi cyfeiriadau at Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol, sydd wedi diddymu ac wedi disodli Rheoliad y Cyngor (EC) 850/98, yn lle cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol er mwyn diogelu pysgod ifanc organebau môr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1967 p. 84 (“Deddf 1967”). Amnewidiwyd adran 1 o Ddeddf 1967 gan adran 19(1) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29). Diwygiwyd adran 1(1) o Ddeddf 1967 gan adran 194(1) a (2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”) ac erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraff 43(1) a (2)(a) o Ran 1 o Atodlen 2 iddo. Amnewidiwyd adran 1(3) o Ddeddf 1967 gan adran 194(1) a (4) o Ddeddf 2009. Gweler adran 1(9) am ddiffiniad o “the appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 1(9) gan adran 194(1) a (5) o Ddeddf 2009 ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 4(2) a (4) o O.S. 2010/760. Amnewidiwyd adran 5(1) gan adran 198(1) a (2) o Ddeddf 2009. Gweler adran 5(9) am ddiffiniad o “the appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 5(9) gan adran 198(3) o Ddeddf 2009 ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 4(2) a (4) o O.S. 2010/760. Diwygiwyd adran 22(2) o Ddeddf 1967, sy’n cynnwys diffiniad o “the Ministers”, gan adrannau 19(2)(d) a (3), a 45 a 46 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), a Rhan 2 o Atodlen 5 iddi ac erthygl 4 o O.S. 1999/1820, a pharagraff 43(1) a (12) o Ran 1, a Rhan 4, o Atodlen 2 iddo.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adrannau 1(1) a (3), a 5(1), ac i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. I’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran parth Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adrannau 1(3), (4) a (6), a 5(1) a (2) o Ddeddf 1967 i Weinidogion Cymru gan erthygl 4(1)(b) o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760).

(3)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a chan O.S. 2007/1388.

(4)

O.S. 2010/2690 (Cy. 205). Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r dynodiad hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill