- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
17 Medi 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Medi 2019
Yn dod i rym
6 Tachwedd 2019
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Tachwedd 2019.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(3).
2.—(1) Mae pob awdurdod lleol sy’n dod o fewn disgrifiad o awdurdod lleol ym mharagraff (2) yn benodedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.
(2) Y disgrifiadau o awdurdod lleol yw—
(a)cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b)cyngor ar gyfer cymuned yng Nghymru.
3.—(1) Mae’r blynyddoedd pryd y cynhelir etholiadau cyffredin cynghorwyr i’r awdurdodau lleol a bennir yn erthygl 2 wedi eu newid gan y diwygiadau a ganlyn i Ddeddf 1972.
(2) Yn adran 26(1)(4) o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), yn lle “2017”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “2022”.
(3) Yn adran 35(2)(5) o Ddeddf 1972 (cynghorwyr cymuned), yn lle “2017” rhodder “2022”.
4. Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol o dan adran 26(2) ac adran 35(2A) o Ddeddf 1972 wedi ei estyn gan un flwyddyn.
5. Mae Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014(6) wedi ei ddirymu.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Medi 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Caiff Gweinidogion Cymru, o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, wneud darpariaeth drwy Orchymyn i newid y blynyddoedd pryd y cynhelir etholiadau cyffredin cynghorwyr i unrhyw awdurdod lleol penodedig.
Mae erthygl 2 yn darparu bod cynghorau ar gyfer siroedd neu fwrdeistrefi sirol a chynghorau ar gyfer cymunedau yng Nghymru yn awdurdodau penodedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 3 yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i gynghorau sir, i gynghorau bwrdeistref sirol ac i gynghorau cymuned yng Nghymru yn cael eu cynnal ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai 2022 yn lle 2021. Mae’n gwneud hynny drwy roi “2022” yn y lleoedd priodol yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, sy’n pennu blynyddoedd etholiadau cyffredin cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned.
Mae erthygl 4 yn darparu bod cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr presennol a etholwyd i gynghorau sir, i gynghorau bwrdeistref sirol ac i gynghorau cymuned yng Nghymru wedi ei estyn gan un flwyddyn yn unol â hynny.
Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 (“Gorchymyn 2014”). Mae Gorchymyn 2014 yn darparu bod etholiadau cyffredin cynghorwyr i gynghorau sir, i gynghorau bwrdeistref sirol ac i gynghorau cymuned yng Nghymru wedi eu cynnal yn 2017 yn lle 2016. Mae etholiadau cyffredin 2017 wedi eu cynnal ac mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi “2022” yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, felly gellir dirymu Gorchymyn 2014.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gymdymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Amnewidiwyd adran 26 gan adran 4(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a diwygiwyd adran 26(1) gan erthygl 2(1) o O.S. 2014/3033 (Cy. 302).
Amnewidiwyd adran 35(2) i (2B) gan adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a diwygiwyd adran 35(2) gan erthygl 2(2) o O.S. 2014/3033 (Cy. 302).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys