Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1018 (Cy. 178)

Caffael Tir, Cymru

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2019

Gwnaed

11 Mehefin 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Mehefin 2019

Yn dod i rym

5 Gorffennaf 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1), ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2019 a daw i rym ar 5 Gorffennaf 2019.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Terfyn gwerth blynyddol

2.  £36,000 yw’r swm a ragnodir at ddibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011(3) wedi ei ddirymu.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

11 Mehefin 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau ynglŷn â hysbysiadau malltod yn adrannau 149 i 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) yn galluogi personau sydd â buddiannau penodol mewn categorïau o dir (gan gynnwys tir y mae cynigion cynllunio a chynigion priffyrdd penodol yn effeithio arno) i’w gwneud yn ofynnol i’r awdurdod priodol gaffael eu buddiant yn y tir. Mae’r categorïau o dir wedi eu pennu yn Atodlen 13 i’r Ddeddf.

Un o’r buddiannau mewn tir yng Nghymru sy’n gymwys i’w ddiogelu yw buddiant perchen-feddiannydd hereditament pan na fo gwerth blynyddol yr hereditament yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan Weinidogion Cymru. Ystyr “hereditament” yw hereditament perthnasol o fewn ystyr adran 64(4)(a) i (c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Mae’r Gorchymyn hwn yn codi’r terfyn gwerth blynyddol o £34,800 i £36,000 o ran Cymru.

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.

Mae asesiad effaith wedi ei lunio mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ar gael oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill