Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “atal ffynnon dros dro” (“well suspension”) yw atal defnyddio ffynnon dros dro fel y gellir ei hailddefnyddio at ddiben drilio neu waith arall;

ystyr “cynnig ardal ddatblygu” (“development area proposal”) yw cynnig a gyflwynir yn unol â thrwydded datblygu a fforio petrolewm sy’n diffinio’r lleoliadau daearyddol o fewn maes petrolewm pan fo’r trwyddedai yn cynnig gwneud gwaith datblygu a chynhyrchu gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, cynllun sy’n nodi’r gweithgareddau i’w gwneud;

ystyr “cynnig ardal gadw” (“retention area proposal”) yw cynnig a gyflwynir yn unol â thrwydded datblygu a fforio petrolewm sy’n diffinio lleoliadau daearyddol pan fo’r trwyddedai yn cynnig gwneud gweithgareddau fforio a gwerthuso;

mae “ffynnon” (“well”) yn cynnwys twll turio;

ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sydd wedi ei benodi’n weithredwr gosod, yn weithredwr ffynnon neu’r ddau;

ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu’n ysgrifenedig;

ystyr “rhaglen ddatblygu a chynhyrchu” (“development and production programme”) yw rhaglen a gyflwynir yn unol â thrwydded petrolewm sy’n nodi’r mesurau y cynigir eu cymryd mewn cysylltiad â datblygu a chynhyrchu maes petrolewm;

ystyr “rhaglen waith” (“work programme”) yw rhaglen sydd wedi ei nodi mewn atodlen i drwydded petrolewm sy’n nodi’r archwiliadau sydd i’w cynnal yn ystod y tymor cychwynnol, gan gynnwys unrhyw arolwg daearegol drwy unrhyw ddull ffisegol neu gemegol ac unrhyw brofion drilio;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ceisiadau) 2015(1);

mae i “trwydded datblygu a fforio petrolewm” yr ystyr a roddir i “petroleum exploration and development licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;

mae i “trwydded draenio methan” yr ystyr a roddir i “methane drainage licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;

mae i “trwydded fforio petrolewm tua’r tir” yr ystyr a roddir i “landward petroleum exploration licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;

ystyr “trwydded petrolewm” (“petroleum licence”) yw trwydded a roddir o dan adran 3 o Ddeddf Petrolewm 1998 (chwilio am betrolewm, ei durio a chael gafael arno) neu o dan adran 2 o Ddeddf Petrolewm (Cynhyrchu) 1934 (trwyddedau i chwilio am betrolewm a chael gafael arno)(2); ac

ystyr “trwyddedai” (“licensee”) yw deiliad trwydded petrolewm.

(1)

O.S. 2015/766, a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/912 ac O.S. 2018/56; mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(2)

1934 p. 36. Diddymwyd y Ddeddf hon gan Ddeddf Petrolewm 1998 ond heb ragfarn i unrhyw hawl a roddwyd gan drwydded a oedd mewn grym yn union cyn cychwyn y Ddeddf honno, gweler paragraff 4 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.